Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Cychwyn Busnes

Y Cynnig

Grantiau ar gael rhwng £1,000.00 a £10,000.00

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys NEU uchafswm o £5,000.00 fesul swydd a grëir, p'un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd i gael mynediad at y gronfa) Gellir cynnwys perchennog y busnes fel swydd newydd.

Yr isafswm grant yw £1,000.00 (yn seiliedig ar o leiaf un swydd newydd a grëwyd) a'r uchafswm grant i bob busnes yw £10,000.00.

Ystyrir dwy swydd ran-amser gyfwerth ag un swydd amser llawn (SALL). Dylai SALL fod yn seiliedig ar oriau amser llawn safonol y cyflogwr. Os mai dim ond ar sail pro rata y byddwch yn creu swydd ran-amser, bydd y grant yn cael ei dalu ar sail pro rata h.y., uchafswm o £2,500.00 am swydd ran-amser.

Rhaid hawlio'r holl swyddi a grëwyd fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu 30ain Tachwedd 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf.

Rydym yn annog i bob swydd a grëwyd gyda chefnogaeth y grant i gael y Cyflog Byw Gwirioneddol. https://cyflogbyw.cymru/beth-ydy-e/

Bydd y gronfa'n cefnogi entrepreneuriaid newydd gyda'u dyheadau cychwyn busnes trwy ddarparu cyfraniad ariannol tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw arbenigol, a fydd naill ai'n galluogi prosiectau buddsoddi cyfalaf pellach neu gynnig i gychwyn busnes penodol a allai olygu costau refeniw uchel.

Dim ond unwaith y gall pob busnes wneud cais am y Gronfa Dechrau Busnes, ond gellir gwneud cais am Gronfa Twf Busnes Powys ar gyfer prosiectau ar wahân os ydynt yn tyfu'r busnes ac yn creu swyddi pellach. Mae'n rhaid cyflawni'r canlyniadau o'r gronfa cychwyn busnes, h.y., cychwyn masnachu a chreu swyddi cyn y gellir ystyried cais am y gronfa twf.

Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall fel grant Canol y Dref, ni ellir dyblygu'r gwariant a'r allbynnau.

Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr fod â'r modd ariannol i brynu'r eitem(au) ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys trwy ddilyn y broses hawlio.

Rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn 30 Medi 2024 fan bellaf, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Er mwyn cynorthwyo llif arian, bydd y tîm grantiau'n ystyried cyflwyno dau hawliad, ond rhaid cytuno ar hynny ymlaen llaw gyda'r Cyngor.