Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Cychwyn Busnes

Y Cais a'r Asesiad

Bydd pob cais a gwblhawyd yn cael ei ystyried ar sail cyntaf i'r felin tan y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y.  

  • Cymhareb gwerth am arian / grant fesul swydd a grëir a buddsoddiad sector preifat a ysgogwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau cychwyn busnes a thwf cynaliadwy
  • Nifer y swyddi a grëir
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu gwasanaethau neu gynnyrch newydd
  • Nifer y busnesau sy'n cymryd rhan mewn marchnadoedd newydd
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd
  • Cynnyrch newydd i'r farchnad

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni ariannu. Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi sut mae'ch busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. https://businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/cynaliadwyedd-a-chyfrifoldeb-cymdeithasol/addewid-twf-gwyrdd

I ddechrau, mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb. 

Bydd y datganiad o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os cewch eich cymeradwyo, fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:

  • Ffurflen Gais wedi'i chwblhau'n llawn,
  • Cynllun busnes (dylai'r cynllun busnes gynnwys adran ar sut mae'r busnes am weithredu arferion busnes cynaliadwy)
  • 2 flynedd o ragolygon ariannol (rhagolygon llif arian)
  • Dyfynbrisiau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer yr eitemau a gynhwysir yn y cais
  • Safonau'r Iaith Gymraeg - gweler rhagor o wybodaeth isod
  • Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes yn ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Dylid nodi bod Grant Cychwyn Busnes Powys o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Cyngor Sir Powys. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried ceisiadau sy'n bodloni'r safon erbyn y dyddiad cau a roddir.

Noder os gwelwch yn dda - Bydd angen cyflwyno ceisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel felly mae'n rhaid cadarnhau gofynion hanfodol fel cyllid cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo hynny'n berthnasol), ac ati cyn y bydd y tîm grant yn paratoi'r cais ar gyfer ystyriaeth y panel.

Bydd eithriadau i'r amodau hyn yn cael eu hystyried fesul achos.