Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Cychwyn Busnes

Ar ôl Cwblhau - Telerau ac Amodau

Dylid nodi bod Grant Cychwyn Busnes Powys o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Cyngor Sir Powys.

Bydd y grant yn cael ei ad-hawlio os bydd busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu, yn adleoli neu'r eiddo sy'n cael ei werthu o fewn 5 mlynedd i'w ddyfarnu, neu os na chyflawnir y nod o greu busnes neu swyddi o fewn y cyfnod penodedig.

Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Anogir Unig Fasnachwyr a Phartneriaethau i ddefnyddio'r cyfrif banc busnes hefyd, i brynu'r holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant.

Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, felly mae'n rhaid i ymgeiswyr fod â'r modd ariannol i brynu'r eitem/eitemau ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys.

Gan fod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, os bydd y cais yn llwyddiannus, telir arian y grant yn uniongyrchol i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbyn tystiolaeth o brynu a thâl, h.y. datganiadau banc gwreiddiol neu rai arlein wedi eu hargraffu ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant. Nid yw lluniau sgrin o drafodion unigol yn dderbyniol.

Rhaid gwneud cais i'r tîm grant ynghylch unrhyw newidiadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant, cyn prynu. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na thelir y grant am yr eitemau hynny.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant i gefnogi'r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweld â'r safle.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy lofnodi a dychwelyd cytundeb Grant Cychwyn Busnes Powys o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn. Rhaid i'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant gael ei gwblhau o fewn 4 mis i ddyddiad y cytundeb Cynnig Grant neu 30ain Medi 2024, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Ni roddir estyniad ar gyfer cyflwyno'r hawliad.

Rhaid cyflawni'r swydd(i) sy'n gysylltiedig â'r prosiectau o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu fis Mawrth 2025 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Byddwn yn monitro'r busnes a'r swyddi a grëir a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at ad-hawlio'r taliad grant.

At ddibenion pob grant, byddwn yn monitro'r hawliad a'r dystiolaeth gyda rhybudd ymlaen llaw ar flynyddoedd 1, 3 a 5 o'r dyddiad y dyfernir y grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cytundeb cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Gellir gwneud estyniad o'r cyfnod cynnig grant, ar yr amod bod cais yn cael ei wneud yn ysgrifenedig. Rhaid i'r ymgeisydd wneud cais am unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau fel y nodir yng nghytundeb y Cynnig Grant a bydd angen i hynny gael ei gymeradwyo gan y tîm grant a'i awdurdodi gan y cyngor.

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. 

Ni fydd eitemau a brynir trwy drefniant les, prynu trwy logi, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

Mae eitemau a brynir gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i'r ymgeisydd ddangos tystiolaeth o'r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd.

** Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr/wyr.

Ni fydd grantiau'n cael eu cynnig na'u talu os yw'r busnes neu'r ymgeisydd yn ôl-ddyledus gydag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o weithredu'r cynllun.