Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Grantiau Chyfleusterau i Bobl Anabl (DFGs) a Grantiau Mân Addasiadau (Mags)

Beth ydyn nhw?

Pecynnau cymorth ariannol y mae'r Cyngor yn eu gweinyddu i helpu i oresgyn y rhwystrau y bydd ymgeiswyr anabl yn eu hwynebu wrth geisio mwynhau annibyniaeth a bywyd cyflawn yn eu cartrefi eu hunain yw grantiau addasu.

Ar gyfer beth maen nhw?

Mae modd defnyddio Cymorth Cyfleusterau i'r Anabl i wneud addasiadau ffisegol penodol i'ch cartref, er enghraifft:

  • Hwyluso mynediad i mewn, allan ac oddi amgylch eich cartref neu ardd
  • Darparu digon o wres, golau a phŵer
  • Addasu cyfleusterau cegin
  • Creu cyfleusterau ystafell wely neu ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Addasu ystafell ymolchi i ddiwallu eich anghenion

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Mae'r DFGs a Mags ar gael dim ond i bobl anabl yn dilyn asesiad, os yw'r gwaith addasu ar eu cartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol ac yn briodol er mwyn diwallu eu hanghenion. Mae angen i ddarpar ymgeiswyr ofyn am asesiad gan Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y lle cyntaf, er mwyn darganfod os oes angen addasiadau, a pha fath o addasiadau fyddai'n briodol. Gall perchnogion tai neu denantiaid wneud cais am gyfleusterau cymorth i'r anabl, yn amodol ar brawf o adnoddau ariannol, prawf o berchnogaeth neu denantiaeth, ynghyd â chaniatâd perchennog yr eiddo.

Pa fath o waith sy'n gymwys?

Mae'r canlynol ymhlith rhai o'r mathau mwyaf cyffredin o waith -

  • Ehangu Drysau
  • Rampiau a chanllawiau i fynd i mewn i eiddo
  • Lifftiau grisiau
  • Teclynnau codi
  • Cawodydd ar yr un lefel â'r llawr

Amodau a chyfyngiadau?

Nid yw addasiadau yn bosibl oni bai ei fod yn rhesymol ac yn ymarferol eu cynnig. Os nad oes modd addasu eich cartref yn briodol, neu os na fyddai'r gwaith yn gost-effeithiol, mae'n bosibl bydd y ceisiadau yn cael eu gwrthod. Efallai y bydd gofyn i bobl ag incwm uchel y mae eu ceisiadau'n llwyddiannus, dalu cyfraniad tuag at y gwaith. Efallai y bydd yn rhaid ad-dalu Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl os oes yn rhaid gwerthu'r eiddo cyn pen 10 mlynedd o gwblhau'r gwaith ardystiedig. Gall y grant dalu am waith ag uchafswm gwerth o £36,000. Gellir gwrthod prosiectau â chost uwch na hyn, neu gellir ychwanegu benthyciad sydd wedi'i gofrestru fel tâl pridiant lleol

Sut i wneud cais?

Does dim angen bod yn bryderus ynghylch gwneud cais am Grant. Os ydych yn poeni y gallai fod yn anodd, cysylltwch â Gofal a Thrwsio ym Mhowys. Maen nhw'n darparu cymorth a chyngor annibynnol a gallant weithredu ar eich rhan. Byddant yn eich helpu i baratoi cais, ac yn trefnu i'r gwaith gael ei wneud a'i oruchwylio nes y bydd wedi'i gwblhau.

Gellir cysylltu â Gofal a Thrwsio ar 01686 620760 neu ewch i Gofal a Thrwsio ym Mhowys (crpowys.co.uk)

Os hoffech wneud cais yn uniongyrchol, cysylltwch Linell Uniongyrchol Powys ar 01597 827666.