Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Gofyn am addasiadau

Ar gyfer mân-addasiadau fel rheiliau llaw, gallwch gysylltu â'ch Swyddog Tai ar 01597 827464.

Am addasiadau mwy i'ch cartref neu ar gyfer cyfarpar i'ch helpu i fyw'n annibynnol, edrychwch ar ein tudalen Cyfarpar ac Addasiadau yn eich Cartref

Gall CYMORTH/ASSIST ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy'n gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol Oedolion (gan gynnwys addasiadau i dai cyngor) i unigolion a gweithwyr proffesiynol. Gallwch gysylltu ar-lein trwy ddefnyddio'r ffurflen ganlynol:

Cysylltwch â CYMORTH ar-lein

Cymorth gyda Chyfleusterau i Bobl Anabl

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi'u bwriadu i helpu i oresgyn problemau difrifol sy'n cyfyngu ar eich gallu i aros yn annibynnol yn eich cartref. Yn dilyn asesiad gan ein Tîm Therapi Galwedigaethol, gall addasiadau sydd wedi'u targedu'n arbennig i ddiwallu eich anghenion sylfaenol chi gael eu hariannu â grant, yn rhannol neu'n llwyr (os nad yw'r offer sydd gennych yn datrys eich problemau).

Boed yn ramp mynediad, neu'n rhywbeth mwy sylweddol fel lifft grisiau neu gawod cerdded-i[1]mewn yn lle bath, mae'n bosibl y bydd cymorth ariannol ar gael. Gall pobl o bob oedran, o blant i bensiynwyr, fod yn gymwys os oes ganddynt anabledd sylweddol a barhaol neu salwch a fydd yn cyfyngu eu hoes. Gall salwch sy'n cyfyngu ar eich bywyd fod yn gymwys i gael cymorth.

Grantiau Chyfleusterau i Bobl Anabl (DFGs) a Grantiau Mân Addasiadau (Mags)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu