Blinder Tosturiol
Darparwr y cwrs
The Fostering Network Wales
Nod
- Yn gyffredinol, diffinnir blinder tosturiol fel cyflwr o draul emosiynol a chorfforol ynghyd â straen trawmatig eilaidd.
- Gellir ei waethygu ymhellach pan nad yw gofalwyr yn cael gwybod am yr union gamdriniaeth, trawma ac esgeulustod y gallai plentyn penodol fod wedi'i brofi, a'r sbectrwm llawn o'u hymddygiadau presennol
Deilliannau Dysgu
- Gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o theori ymlyniad a'i effaith ar berthnasoedd personol a phroffesiynol
- Deall y patrwm ymlyniad y gallem fod wedi'i ddatblygu a dysgu goblygiadau posibl ein perthynas ofalu
- Datblygu dealltwriaeth o sut y gellir newid patrymau ymlyniad
- Nodi'r hyn y mae cyd-reoleiddio yn ei olygu, pam ei fod yn hanfodol, a sut i'w gymhwyso
- Trafod yr heriau a'r sgiliau llwyddiannus wrth gymhwyso gofal maeth therapiwtig
- Archwilio'r newidiadau i ddynameg y teulu a achosir gan faethu yn achosi straen
- Ddansoddi ffactorau sy'n arwain at flinder tosturiol
- Adnabod arwyddion a symptomau critigol blinder tosturiol
- Nodi'r strategaethau ymdopi y gallwch eu defnyddio i gynyddu gwydnwch
- Adnabod ffyrdd o gynnal elfennau cadarnhaol y "bywyd cyn-faethu" a hunanofal
- Datblygu ffyrdd o ddod o hyd i gymorth i chi'ch hun a rhoi cymorth i'ch cydweithiwr
.
Dyddiad a Amseroedd
- 19 Ebrill 2024, 10:00 - 12:30
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant