Llythyron i'w Darllen yn ddiweddarach/Gwaith ar Hanes Bywyd
Darparwr y cwrs
Children in Wales
Nod
- Mae angen i bob plentyn yng Nghymru, na all eu teuluoedd biolegol ofalu amdanynt, feddu ar ddealltwriaeth o hanes eu teulu a'u taith unigryw.
- Bydd gweithwyr cymdeithasol yn dysgu sut y gall Llythyron i'w Darllen yn ddiweddarach/Gwaith ar Hanes Bywyd helpu plentyn i wneud synnwyr o'i orffennol a deall ei sefyllfa bresennol er mwyn ei helpu i symud i'r dyfodol.
Deilliannau Dysgu
- Bydd cyfranogwyr yn canfod sut y gallant ddefnyddio Llythyron i'w Darllen yn ddiweddarach a gwaith hanes bywyd i gefnogi hunaniaeth y plentyn, hyrwyddo hunan-barch, helpu i roi ymdeimlad o berthyn, lles a chefnogi iechyd meddwl da i'r plentyn.
- Mae Gwaith Hanes bywyd yn rhoi cyfle a strwythur i'r plentyn archwilio ei emosiynau a siarad am faterion poenus, a a gallant roi gwybodaeth ffeithiol bwysig i'r plentyn, ynghyd â naratif ag ambell esboniad yn ogystal â chadw atgofion.
Dyddiad a Amseroedd
- 24 Hydref 2024 09:30-16:00
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant