Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth Cyntaf Pediatrig (Gofalwyr Preswyl / Maeth)

Darparwr y cwrs

Groundwork North Wales

Nod

  • Mae'r cymhwyster wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr sydd â chyfrifoldeb dros ofalu am blant a babanod ar lefel broffesiynol.
  • Pwrpas y cymhwyster yw i'r dysgwr ennill y wybodaeth a'r cymhwysedd ymarferol sydd eu hangen i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd cymorth cyntaf pediatrig.

Deilliannau Dysgu

Mae'r cymhwyster yn cynnwys 12 awr o oriau dysgu dan arweiniad (GLH) a chyfanswm amser cymhwyso o 15 awr (TQT). Ni ddylai'r oriau cyswllt ar gyfer addysgu ac asesu uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth fod yn llai na 12 awr dros 2 ddiwrnod. Gellir cyflwyno'r cymhwyster dros gyfnod o 6 wythnos ar y mwyaf, gyda phob sesiwn hyfforddi yn para o leiaf 2 awr.

Ymdrinnir ag amrywiaeth o bynciau, gan cynnwys:

  • Rôl Cymorth Cyntaf Pediatrig• Trawiad (seizure)
  • Argyfwng diabetig
  • Arolwg sylfaenol
  • Tagu
  • Asthma
  • Adfywio (CPR gan gynnwys defnydd diogel o AED)
  • Mân anafiadau• Meningitis• Clwyfau, gwaedu a sioc
  • Ystum adfer • Ffitiau gwres
  • Adweithiau alergaidd gan gynnwys anaffylacsis
  • Torasgwrn
  • Oerni a gwres eithafol
  • Anafiadau pen, gwddf a chefn
  • Corffyn estron
  • Digwyddiadau trydanol

 

Dyddiad a Amseroedd

  • 19 a 20 Mehefin 2024  09:30-15:30 (Y Gwalia, Llandrindod LD1 6AA)
  • 17 a 18 Medi 2024 09:30-15:30 (Ty Ladywell, Newtown, SY16 1JB)
  • 27 a 28 Tachwedd 2024 09:30-15:30 (Y Guildhall, Aberhonddu, LD3 7AL)

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau