Cymorth Cyntaf Pediatrig (Gofalwyr Preswyl / Maeth)
Darparwr y cwrs
Groundwork North Wales
Nod
- Mae'r cymhwyster wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr sydd â chyfrifoldeb dros ofalu am blant a babanod ar lefel broffesiynol.
- Pwrpas y cymhwyster yw i'r dysgwr ennill y wybodaeth a'r cymhwysedd ymarferol sydd eu hangen i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd cymorth cyntaf pediatrig.
Deilliannau Dysgu
Mae'r cymhwyster yn cynnwys 12 awr o oriau dysgu dan arweiniad (GLH) a chyfanswm amser cymhwyso o 15 awr (TQT). Ni ddylai'r oriau cyswllt ar gyfer addysgu ac asesu uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth fod yn llai na 12 awr dros 2 ddiwrnod. Gellir cyflwyno'r cymhwyster dros gyfnod o 6 wythnos ar y mwyaf, gyda phob sesiwn hyfforddi yn para o leiaf 2 awr.
Ymdrinnir ag amrywiaeth o bynciau, gan cynnwys:
- Rôl Cymorth Cyntaf Pediatrig• Trawiad (seizure)
- Argyfwng diabetig
- Arolwg sylfaenol
- Tagu
- Asthma
- Adfywio (CPR gan gynnwys defnydd diogel o AED)
- Mân anafiadau• Meningitis• Clwyfau, gwaedu a sioc
- Ystum adfer • Ffitiau gwres
- Adweithiau alergaidd gan gynnwys anaffylacsis
- Torasgwrn
- Oerni a gwres eithafol
- Anafiadau pen, gwddf a chefn
- Corffyn estron
- Digwyddiadau trydanol
Dyddiad a Amseroedd
- 19 a 20 Mehefin 2024 09:30-15:30 (Y Gwalia, Llandrindod LD1 6AA)
- 17 a 18 Medi 2024 09:30-15:30 (Ty Ladywell, Newtown, SY16 1JB)
- 27 a 28 Tachwedd 2024 09:30-15:30 (Y Guildhall, Aberhonddu, LD3 7AL)
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant