Partneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant
8 Mawrth 2024
Cynhaliwyd ail Gynhadledd y Tasglu Tlodi Plant gan Gyngor Sir Powys, ddiwedd mis Chwefror.
Yn ystod y gynhadledd, clywodd mynychwyr gan y cyngor yn ogystal â'i bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac elusennol am y gwaith sydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â thlodi plant yn y sir.
Roedd y gweithgareddau allweddol i gefnogi plant a phobl ifanc ym Mhowys a amlygwyd yn ystod y gynhadledd yn cynnwys:
- Dros 550,000 o brydau ysgol wedi cael eu gweini i ddisgyblion ysgolion cynradd o dan y cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol
- Darparodd The Hive, hwb cynaliadwyedd dan arweiniad y gymuned sydd wedi'i leoli yn Llandrindod, ddillad ac esgidiau i bron i 1,500 o deuluoedd, oedd yn werth dros £100,000 rhwng Tachwedd 2022 a Rhagfyr 2023
- Prosiect arlwyo ar y cyd rhwng y cyngor a Grŵp Colegau NPTC, roddodd gyfle i rieni ddatblygu sgiliau a phrofiad ac ennill cymhwyster a allai arwain at weithio mewn ceginau ysgol
- Mae Cynllun Grant dan Arweiniad Ieuenctid PAVO, sef cynllun a ddarperir gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, wedi cael dros 720 o fuddiolwyr ledled y sir
- Dosbarthwyd 1,470 o becynnau chwarae i deuluoedd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg.
Yn ychwanegol at hyn, clywodd mynychwyr y gynhadledd hefyd gan siaradwyr o Plant yng Nghymru a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant.
Yn ystod y gynhadledd, cafodd Gwobr Tlodi Plant: Gwneud Gwahaniaeth ei lansio i gydnabod ymdrechion unigolion, gweithwyr proffesiynol, busnesau a sefydliadau sydd wedi mynd y filltir ychwanegol er mwyn taclo tlodi plant a gwella cyfleoedd i blant a theuluoedd yma ym Mhowys.
Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Powys Tecach: "Roedd yn anrhydedd i mi gadeirio Cynhadledd Tasglu Tlodi Plant eleni.
"Roedd yn braf clywed am y cynnydd y mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi'i wneud i fynd i'r afael â thlodi plant yn y sir.
"Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol os ydym am wneud gwahaniaeth go iawn yn y maes hwn ac rwy'n falch o'r cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn. Fodd bynnag, gwyddom fod angen i ni wneud hyd yn oed mwy oherwydd mae tlodi plant yn dal i effeithio ar ormod o deuluoedd yma ym Mhowys ac mae'n gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw.
"Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â thlodi plant ac adeiladu Powys cryfach, tecach a gwyrddach."