Deddf Galluedd Meddyliol a Chytundebau Tenantiaeth Tai
Hyfforddiant gan Cyflwynir gan Rhiannon Mainwaring, JMG Training & Consultancy
Cynulleidfa darged: Timau Gwaith Cymdeithasol a'r Adran Dai
Nodau
- Bydd y cwrs yma'n olrhain y gyfraith mewn perthynas â chreu cytundebau tenantiaeth i'r sawl sydd â diffyg galluedd meddyliol.
- Mae nifer o ddyfarniadau llys wedi dangos y problemau cyffredin sy'n wynebu staff, a goblygiadau cytundebau tenantiaeth anghyfreithlon.
- Bydd y cwrs yn ystyried sut y dylai staff asesu galluedd meddyliol mewn perthynas â chytundebau tenantiaeth, a'r gyfraith achos allweddol yn y maes.
- Hefyd bydd yn ystyried dilysrwydd cyfreithiol cytundebau tenantiaeth sy'n cael eu harwyddo gan, neu ar ran, unigolion gyda diffyg galluedd; a phan fydd pobl sydd â diffyg galluedd yn cael eu lleoli heb gytundeb tenantiaeth.
- Bydd y sawl sy'n bresennol yn cael enghreifftiau o achosion pan fydd angen ceisiadau i'r Llys Gwarchod efallai a'r gweithdrefnau ymarferol mewn perthynas â hyn.
- Byddwn hefyd yn trafod rôl cyfreithwyr a dirprwyon, mewn perthynas â chytundebau tenantiaeth.
Deilliannau

Dyddiadau
- 9 Mai 2024, 9.30am - 4.30pm
Hyfforddiant ar-lein dros Teams
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses