Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tyfu eich busnes gyda grant o hyd at £25mil

People working in lots of different industries

12 Mawrth 2024

People working in lots of different industries
Gallai busnesau ym Mhowys sydd â chynlluniau i ehangu neu sicrhau eu dyfodol mewn cyfnod heriol, fod yn gymwys i dderbyn Grant Twf gan y cyngor sir.

Mae symiau o rhwng £1,000 a £25,000 ar gael ar ôl i'r cyngor sicrhau cyfanswm o bron £1.1 miliwn, gan Lywodraeth y DU, drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd yr arian hwn, sydd ar gael hefyd i'w hawlio gan fusnesau sy'n ystyried symud i Bowys, ar gael nes caiff y cyfan ei ddyrannu.

Yn ystod y ffenestr gyntaf, dyrannwyd cyfanswm o £143,000, ym mis Tachwedd a Rhagfyr y llynedd, ac oherwydd ei fod mor boblogaidd, mae'r cyngor wedi gwneud cais am ragor o gyllid er mwyn cynyddu'r gronfa sydd ar gael ar gyfer yr ail ffenestr, i £950,000.

"Mae'r grantiau hyn yn cael eu darparu fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd yn ystod cyfnod anodd," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod y Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus, "fel rhan o'n nod ehangach i greu Powys gryfach, decach a gwyrddach.  

"Rydym yn awyddus i helpu busnesau yn y sir, a'r sawl sydd am symud yma, yn ystod pob cam datblygu, er mwyn cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol."

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect neu uchafswm o £5,000 fesul swydd a grëwyd a/neu £5,000 fesul swydd a ddiogelir, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd gyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael ymgeisio am y grant.)

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Twf Busnes Powys nawr.

Gellir defnyddio'r arian i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw unwaith-yn-unig ond ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg arferol.

Anelir y gefnogaeth yn bennaf at y sectorau canlynol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
  • Gwybodaeth, Technoleg a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Manwerthu
  • Gofal

Bydd ceisiadau gan sectorau eraill, ac eithrio ffermio, pysgota, coedwigaeth a gwasanaethau statudol yn cael eu hystyried ar sail eu gwerth i'r economi leol.

Yn ddelfrydol, bydd y bobl sy'n cael swyddi, neu'n cael eu cadw mewn swyddi presennol, yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Gofynnir i fusnesau sy'n cymryd rhan hefyd ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Powys.

Neu anfonwch e-bost i: economicdevelopment@powys.gov.uk