Bioamrywiaeth ac adfer natur ym Mhowys
Mae Powys yn sir wledig sy'n cwmpasu 25% o Gymru. Mae ganddi amrywiaeth o gynefinoedd pwysig, gan gynnwys tir amaeth, tiroedd comin, trefol, tir llwyd, coetir, glaswelltir, rhostir a gwlyptir.
Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i ystod amrywiol o rywogaethau. Mae'r Fioamrywiaeth hon yn cynnwys popeth byw gan gynnwys planhigion, mwsoglau, cennau, algâu ac anifeiliaid.
Mae tirwedd a bywyd gwyllt yn rhan o ecosystem sy'n dod â dwr ffres, bwyd a thanwydd i ni yn ogstal ag incwm o dwristiaeth a chyfleoedd am hamdden ac addysg. Adwaenir y gwasanaethau a ddarperir gan natur fel gwasanaethau ecosystem ac mae ecosystemau cydnerth iach yn dibynnu ar fioamrywiaeth.
Gweithredu Lleol dros Fioamrywiaeth
Cyhoeddodd y cyngor Argyfwng Natur yn 2022 i gyd-fynd â'r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd yn 2020. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sawl adroddiad wedi amlygu'r dirywiad cyffredinol mewn bioamrywiaeth a'r camau gweithredu sydd eu hangen i helpu i atal y golled hon o fyd natur.
Mae natur a hinsawdd yn gysylltiedig ac os ydym am fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd mae angen cynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau bioamrywiol er mwyn i natur allu addasu'n haws i hinsawdd sy'n newid. Mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â newid hinsawdd er mwyn i'n byd naturiol gael cyfle gwell o oroesi.
Cafodd Partneriaeth Natur Powys ei ffurfio i helpu i gydlynu gweithredoedd adfer natur ym Mhowys Partneriaeth Natur Powys. Fframwaith o bobl a sefydliadau sydd â gwybodaeth ac angerdd dros adfer bioamrywiaeth a helpu adferiad natur ym Mhowys yw'r bartneriaeth.
Cyngor Sir Powys sy'n cynnal Partneriaeth Natur Powys, gan gyflawni'r gweithredoedd oddi fewn i Gynllun Gweithredu Adfer Natur Powys.
Rôl y Cyngor mewn cadwraeth natur
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus 'i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth', a thrwy hynny 'hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau' wrth wneud eu swyddogaethau.
Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol 'cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd.
Fel awdurdod lleol mae ein gweithgareddau'n cael effaith uniongyrchol ar rywogaethau a chynefinoedd, megis rheoli tir sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, cynllunio ar gyfer tai lleol a chynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd. Felly mae gennym rôl bwysig yn y gwaith o gynnal bioamrywiaeth.