Toglo gwelededd dewislen symudol

Archwilio cyfleoedd ar gyfer chwyldro digidol yng Nghanolbarth Cymru

Image of fibre optics

13 Mawrth 2024

Image of fibre optics
Mae band eang Gigabit yn dechnoleg newydd sydd â buddion i deuluoedd a busnesau.

Gall y prosiectau presennol sy'n cael eu ariannu trwy grant gynorthwyo Canolbarth Cymru i wella eu seilwaith cysylltedd yn sylweddol, ond gall fod yn gymhleth wrth archwilio'r opsiynau sydd ar gael.

Rydym am egluro'r wybodaeth honno fel y gallwch chi, fel trigolion a busnesau ar draws Ceredigion a Phowys wneud penderfyniad gwybodus a fydd yn atebol i'ch anghenion chi.

Mae Canolbarth Cymru y tu ôl o ran mynediad at y wê o'i gymharu â gweddill y DU. Nid yn unig y mae'r bwlch digidol hwn yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd, ond hefyd yn atal ein datblygiad economaidd ac addysgiadol.

Mae band eang Gigabit yn dynodi trawsnewidiad mewn cysylltedd, a gall gynnig cyflymder o hyd at 1000 Mbps. Bydd hyn yn golygu cyflymder lawrlwytho cynt i gartrefi a chyswllt mwy dibynadwy ar gyfer gweithio o adref, a rhoi stop ar amseroedd lawrlwytho hir. Ar gyfer busnesau, bydd yn ehangu'r gystadleuaeth rhwng busnesau, gwneud gweithrediadau'n fwy effeithlon ac yn galluogi busnesu i fod yn arloesol.

Openreach yw'r unig ddarparwr band eang sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â phrojectau band eang cymunedol ar draws Ceredigion a Phowys. Maent yn buddsoddi yn y seilwaith er mwyn galluogi cyflwyno'r dechnoleg hon, ond mae angen iddynt wybod fod galw pendant am y dechnoleg hon o fewn y meysydd hyn cyn y gallant ymrwymo i fuddsoddi a chyflenwi Gigabit.

Er mwyn gweld os oes diddordeb yn y prosiectau hyn, mae angen i drigolion a busnesau rhag-gofrestru eu diddordeb trwy ddefnydd talebau am ddim. Mae rhag-gofrestru yn gwneud mwy na dangos y diddordeb; mae'n offeryn pwerus a fydd yn dylanwadu ar ddyraniad adnoddau a blaenoriaethu cyflwyno cynlluniau band eang i Ganolbarth Cymru.

Mae Openreach ar hyn o bryd yn chwilio am unrhyw ddiddordeb wrth drigolion yng nghymunedau Aberriw, Llanwrtyd, Maesyfed, Llyswen a Llanrhaeadr ym Mhowys ynghyd â Rhydlewis a Tregaron yng Ngheredigion i gymryd mantais o'r uwchraddio gwibgyswllt hwn.

Mae Openreach yn 'westeiwr niwtral'. Golyga hyn eu bod yn adeiladu'r seilwaith ar gyfer y band eang Giigabit a fydd yn galluogi unrhyw weithredwr rhwydwaith o fewn y DU i gael mynediad a'i redeg e.e. eich darparwr rhyngrwyd presennol.

I weld yr amryw o opsiynau ac i rag-gofrestru eich diddordeb ac i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am fentrau cymunedol o fewn ardal dalgylch benodol, ewch i: www.openreach.com/connect-my-community.

Dwedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod o'r Cabinet dros Cysylltu Powys: "Nid yw'r daith at fand eang gwell yng Nghanolbarth Cymru yn unig er mwyn cael rhyngrwyd cynt. Mae er mwyn cysylltu cymunedau, grymuso busnesau ac agor byd o gyfleoedd. Mae'n glir nad moethusrwydd yw band eang Gigabit, ond yn hytrach rheidrwydd hanfodol ar gyfer paratoi seilwaith ddigidol Ceredigion a Phowys at y dyfodol. Rydym yn annog ein trigolion sy'n byw yn y mannau uwchraddio a nodir i ddatgan eu ddiddordeb. Mae eich cyfranogiad yn allweddol i ddod â'r newid angenrheidiol hwn i'n sir."

I'r trigolion hynny sy'n edrych i ehangu eu cysylltedd band eang ond yn methu darganfod tystiolaeth o uwchraddio yn eu hardaloedd, mae cynllun grant ABC Llywodraeth Cymru (Allwedd Band Eang Cymru)yn cynnig datrysiadau posibl. Mae'r cynllun hwn yn targedu trigolion sydd â chysylltedd band eang gwael ac yn cynnig cyllid yn Uniongyrchol at drigolion cymwys er mwyn eu cefnogi i osod seilwaith band eang gwell.

Gall y cyllid hwn dalu'r costau sy'n gysylltiedig ag uwchraddio cysylltiadau presennol neu osod seilwaith newydd, fel datrysiadau lloeren neu fand eang diwifr. Ewch i dudalen we y Cynllun Grant ABC am fwy o wybodaeth: https://www.llyw.cymru/cynllun-grant-allwedd-band-eang-cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu