Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghoriad iaith Bro Caereinion

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

13 Mawrth 2024

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Gallai cynlluniau cyffrous i symud ysgol bob oed yng Ngogledd Powys ar hyd y continwwm ieithyddol, fel ei bod yn dyfod i fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg y pen draw, gamu'n nes at y nod os fydd argymhelliad yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, dywedodd y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig symud  Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Cyfrwng Cymraeg ar sail gyfnodol.

Byddai hyn yn galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg gan sicrhau eu bod yn dyfod yn gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio'r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol

Byddai hefyd yn sicrhau fod disgyblion yn y rhan hon o Bowys yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd Cyfrwng Cymraeg ddynodedig. Mae'r ddarpariaeth hon eisoes ar gael i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru ond nid yw ar gael ym Mhowys ar hyn o bryd.

Cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad saith wythnos o hyd, rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr 2023, a chaiff canfyddiadau adroddiad yr ymgynghoriad eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth 19 Mawrth.

Yr argymhelliad sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet yw y dylai'r cyngor fynd yn ei flaen gyda'r cynnig i newid categori ieithyddol Ysgol Bro Caereinion drwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

Fodd bynnag, yn dilyn pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad am y gweithredu arfaethedig yn y cam uwchradd, caiff ei argymell fod gwelliant yn cael ei wneud i'r dyddiad, y bydd yr trawsnewidiad uwchradd yn dechrau - sef o fis Medi 2025 i fis Medi 2026. Mae'r trawsnewidiad yn y cyfnod cynradd yn parhau i gael ei argymell i ddigwydd ym mis Medi 2025.

Er mwyn mynd i'r afael ymhellach â'r pryderon am yr effaith ar ddisgyblion sydd ar hyn o bryd yn cael mynediad at addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn yr ardal, caiff ei argymell i'r Cabinet, fel mesur dros dro, gynnig trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 4 ac iau yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan, i'w darparwr uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf, pan fyddant yn pontio o'r cynradd i'r uwchradd.

Byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion nad ydynt yn y ffrwd Gymraeg eto, ar ffurf cymorth Trochi yn yr iaith Gymraeg, i alluogi disgyblion cyfredol y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i bontio i'r ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Cafodd y math hon o ddarpariaeth ei chyflenwi'n llwyddiannus yn y sir yn flaenorol, ac mewn awdurdodau eraill i alluogi disgyblion i bontio o addysg Cyfrwng Saesneg i addysg Cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynnig hwn. Ar ôl ystyried holl ymatebion yr ymgynghoriad, yr argymhelliad a gaiff ei gyflwyno i'r Cabinet yw i barhau gyda'r cynnig drwy gyhoeddi hysbysiad statudol i gynnig y newid yn ffurfiol.

"Rydym ni wedi ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad ac wedi diwygio'r cynnig i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon sydd wedi cael eu codi.

"Byddai'r cynnig hwn yn gweld y cyngor yn darparu darpariaeth sydd wedi ei chynllunio'n dda er mwyn cynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc i ddyfod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly gyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r cynnig hwn yn bodloni nodau'r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys a gweithredu'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg, a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

I ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith

I ddarllen fersiwn ddiwygiedig o'r Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022-2027) ewch i Trawsnewid Addysg.