Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hwb i gychwyn eich syniad busnes gyda grant o hyd at £10mil

A woman planning her business strategy

14 Mawrth 2024

A woman planning her business strategy
Gall entrepreneuriaid ym Mhowys sydd â chynlluniau i sefydlu menter busnes newydd, fod yn gymwys i dderbyn grant Cychwyn Busnes gan y cyngor sir.

Mae symiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael ar ôl i'r cyngor sicrhau cyfanswm o £250,000, gan Lywodraeth y DU, drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd yr arian yma ar gael nes i'r cyfan gael ei ddyrannu.

"Mae'r grantiau hyn yn cael eu darparu fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd yn ystod cyfnod anodd," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod y Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus, "fel rhan o'n nod ehangach i greu Powys gryfach, decach a gwyrddach. 

"Rydym yn awyddus i gefnogi creu busnesau newydd yn y sir, a fydd yn creu swyddi ac yn gwella'r economi lleol."

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect neu uchafswm o £5,000 fesul swydd a grëwyd, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd er mwyn cael ymgeisio am y grant.)

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Cychwyn Busnes Powys nawr.

Gellir defnyddio'r arian i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw unwaith-yn-unig ond ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg arferol.

Anelir y gefnogaeth yn bennaf at y sectorau canlynol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
  • Gwybodaeth, Technoleg a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Manwerthu
  • Gofal

Bydd ceisiadau gan sectorau eraill, ac eithrio ffermio, pysgota, coedwigaeth a gwasanaethau statudol yn cael eu hystyried ar sail eu gwerth i'r economi leol.

Yn ddelfrydol, bydd y bobl sy'n cael swyddi, neu'n cael eu cadw mewn swyddi presennol, yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Gofynnir i fusnesau sy'n cymryd rhan hefyd ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Powys.

Neu anfonwch e-bost i: economicdevelopment@powys.gov.uk