Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng yn ennill ardystiad Passivhaus
15 Mawrth 2024
Adeiladwyd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng, fel rhan o raglen Trawsnewid Addysg Cyngor Sir Powys, a dyma'r ysgol gyntaf yn y sir i ennill ardystiad Passivhaus.
Mae adeilad yr ysgol, a ddyluniwyd gan Architype (Architects) a WSP (Engineering All Disciplines) ac a adeiladwyd gan Pave Aways Ltd ar ran y cyngor, yn bodloni'r safonau ynni effeithlon trylwyr a alluogodd iddo gael yr ardystiad hwn.
Enillodd yr adeilad arloesol ddwy wobr y llynedd - y Wobr Gwerth yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth yng Nghymru a'r wobr Cyfleuster Arloesi mewn Darparu Addysg Gynaliadwy yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru.
Wedi'i hadeiladu o amgylch ffrâm bren a oedd o ffynonellau cynaliadwy yng Nghymru, mae gan yr ysgol lefel uwch o inswleiddio ac fe'i hadeiladwyd i fod yn aerdyn. Mae ganddo hefyd system adfer gwres ac awyru a phaneli solar ar y to i leihau costau rhedeg.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt), a'r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwy'n falch iawn bod adeilad Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng wedi cyflawni ardystiad Passivhaus.
"Ni fyddai'r prosiect arloesol hwn wedi bod yn bosibl oni bai am y bartneriaeth rhwng arweinwyr ysgol a'n swyddogion cyngor ymroddedig, Llywodraeth Cymru, Esgobaeth Llanelwy a'n partneriaid yn y diwydiant adeiladu.
"Mae'r cyfleuster arobryn hwn yn galluogi dysgwyr a staff addysgu i gyflawni eu potensial ond mae wedi'i adeiladu i'r safonau ynni effeithlon uchaf sy'n helpu'r sir i leihau ei hôl troed carbon."