Twr nythu ar gyfer bywyd gwyllt i'w osod mewn gwarchodfa natur leol
15 Mawrth 2024
Bydd y twr yn darparu lle i'r wennol ddu, gwenoliaid y bondo ac adar bach eraill, nythu. Bydd hefyd yn lle perffaith i ystlumod glwydo ynddo.
Cafodd y wennol ddu a gwenoliaid y bondo eu hychwanegu at Restr Goch y Rhywogaethau Sydd o Dan Fygythiad am y tro cyntaf yn 2021, yn sgil gostyngiad ymhlith y boblogaeth fridio; ac mae pob un o'r 12 o rywogaethau o ystlumod sydd i'w canfod ym Mhowys yn cael eu diogelu ac o'r flaenoriaeth uchaf o ran cadwraeth.
Mae'r dirywiad ymhlith y rhywogaethau hyn yn sgil amrywiol ffactorau gan gynnwys diffyg mannau nythu, colli cynefinoedd a llai o bryfed sy'n ffynhonnell fwyd hanfodol. Bydd y twr nythu newydd hwn yn helpu drwy ddarparu nythfan i adar a chyfleoedd i ystlumod glwydo fel y Pipistrelle Cyffredin a'r Pipistrelle Soprano.
Mae'n bosibl y bydd yn cymryd peth amser i adar ddechrau defnyddio'r twr nythu. Mae'r wennol ddu, gwenoliaid y bondo a'r wennol yn deyrngar i'w lleoliadau nythu blaenorol, felly mae'n debygol, ymhen amser, y bydd adar ifanc yn dod o hyd i'r lleoliadau nythu ac yn eu defnyddio. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n bosibl y clywch chi system ynni solar sy'n Galw Gwenoliaid. Bydd hwn yn helpu i ddenu gwenoliaid i'r twr nythu wrth iddynt chwilio am safleoedd nythu ym mis Mai. Fel arfer maen nhw'n chwilio am fannau magu sydd wedi eu sefydlu eisoes gan haid arall o adar.
Mae panel gwybodaeth sy'n rhoi manylion am y rhywogaethau a fydd yn defnyddio'r twr nythu wedi cael ei osod hefyd yn y ddôl ochr yn ochr â Ffordd Grosvenor.
"Er bod digonedd o gefn gwlad a mannau agored ym Mhowys, mae'r dirywiad mewn natur a bywyd gwyllt yn parhau'n broblem anferthol hyd yn oed ym mhrydferthwch gwledig y sir." Esbonia Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Amcangyfrifir fod 1 o bob 6 o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddifodiant a dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae 73 o rywogaethau eisoes wedi diflannu gyda 666 o rywogaethau pellach o dan fygythiad difodiant.
"Rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i helpu i leihau'r dirywiad hwn ac mae gosod y twr nythu hwn yn Llandrindod yn un o'r ffyrdd gweithredu y mae Partneriaeth Natur Powys yn ei wneud i gefnogi adferiad natur ym Mhowys."
Grŵp o sefydliadau ac unigolion yw Partneriaeth Natur Powys sy'n gweithio ynghyd i gydlynu gweithredoedd adferiad natur ym Mhowys gyda'r nod o atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ledled y sir. Mae staff bioamrywiaeth y cyngor wedi cynllunio'r twr a'r panel gwybodaeth ag arian a ddarparwyd oddi wrth gronfa Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru.