Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor yn cydweithio â Chastell Howell i weini prydau ysgol

Image of representatives from Powys County Council and Castell Howell

15 Mawrth 2024

Image of representatives from Powys County Council and Castell Howell
Bellach, bydd prydau ysgol sy'n cael eu gweini i ddisgyblion Powys yn defnyddio mwy o gynnyrch Cymraeg diolch i bartneriaeth newydd rhwng y cyngor a phrif gyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol Cymru.

Bydd Cyngor Sir Powys yn gweithio law yn llaw â Chastell Howell o Cross-Hands, a fydd nawr yn brif gyflenwr bwydydd ffres a rhewedig a fydd yn cael eu defnyddio gan Dîm Arlwyo'r cyngor i greu prydau ysgol iach a maethlon.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hon yn bartneriaeth gyffrous ac rwy'n falch iawn y bydd y cyngor yn gweithio gyda Chastell Howell i barhau i ddarparu prydau iach a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion ledled y sir.

"Fel cyngor, rydym yn edrych i ddefnyddio mwy o gynnyrch Cymreig felly bydd ein partneriaeth newydd gyda Chastell Howell yn ein helpu i gyflawni hyn.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda nhw i gynhyrchu bwydlenni prydau ysgol tymhorol sy'n defnyddio cynnyrch a dyfir yma yng Nghymru a, lle bo modd, Powys."

Dywedodd Matt Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Howell: "Mae Bwydydd Castell Howell wedi dosbarthu bwyd i fusnesau ledled Powys ers blynyddoedd lawer, gan adeiladu partneriaethau gydag arlwywyr a chwsmeriaid lletygarwch.

"Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu fel cyflenwyr newydd i Gyngor Sir Powys ac edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaethau tebyg gyda'r ysgolion sy'n chwarae rhan amhrisiadwy yn y cymunedau lle mae'r busnesau hyn yn gweithredu. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer, yn cyflenwi dros 1,000 o ysgolion, gan helpu i ddarparu cynhwysion ar gyfer 600,000 o brydau ysgol bob wythnos.

"Mae esblygu cadwyni cyflenwi Cymru yn bwysig. Rydym yn y drydedd flwyddyn o'n menter gydweithredol 'Llysiau o Gymru i Ysgolion Cymru' ac rydym eisoes yn gweithio gyda thyfwr yn ne-ddwyrain y sir, ac yn datblygu perthynas â thyfwr i'r dwyrain o Aberhonddu.

"Ein nod yw gweithio i gynllun tair blynedd gyda Chyngor Sir Powys, lle mae nifer uwch o gynnyrch Cymreig yn ymddangos ar blât yr ysgol.  Mae gan Bowys ddyheadau tebyg ac mae nifer o gyfleoedd i wireddu'r uchelgeisiau rydym yn eu rhannu."