Cyngor yn cydweithio â Chastell Howell i weini prydau ysgol
15 Mawrth 2024
Bydd Cyngor Sir Powys yn gweithio law yn llaw â Chastell Howell o Cross-Hands, a fydd nawr yn brif gyflenwr bwydydd ffres a rhewedig a fydd yn cael eu defnyddio gan Dîm Arlwyo'r cyngor i greu prydau ysgol iach a maethlon.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hon yn bartneriaeth gyffrous ac rwy'n falch iawn y bydd y cyngor yn gweithio gyda Chastell Howell i barhau i ddarparu prydau iach a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion ledled y sir.
"Fel cyngor, rydym yn edrych i ddefnyddio mwy o gynnyrch Cymreig felly bydd ein partneriaeth newydd gyda Chastell Howell yn ein helpu i gyflawni hyn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda nhw i gynhyrchu bwydlenni prydau ysgol tymhorol sy'n defnyddio cynnyrch a dyfir yma yng Nghymru a, lle bo modd, Powys."
Dywedodd Matt Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Howell: "Mae Bwydydd Castell Howell wedi dosbarthu bwyd i fusnesau ledled Powys ers blynyddoedd lawer, gan adeiladu partneriaethau gydag arlwywyr a chwsmeriaid lletygarwch.
"Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu fel cyflenwyr newydd i Gyngor Sir Powys ac edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaethau tebyg gyda'r ysgolion sy'n chwarae rhan amhrisiadwy yn y cymunedau lle mae'r busnesau hyn yn gweithredu. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer, yn cyflenwi dros 1,000 o ysgolion, gan helpu i ddarparu cynhwysion ar gyfer 600,000 o brydau ysgol bob wythnos.
"Mae esblygu cadwyni cyflenwi Cymru yn bwysig. Rydym yn y drydedd flwyddyn o'n menter gydweithredol 'Llysiau o Gymru i Ysgolion Cymru' ac rydym eisoes yn gweithio gyda thyfwr yn ne-ddwyrain y sir, ac yn datblygu perthynas â thyfwr i'r dwyrain o Aberhonddu.
"Ein nod yw gweithio i gynllun tair blynedd gyda Chyngor Sir Powys, lle mae nifer uwch o gynnyrch Cymreig yn ymddangos ar blât yr ysgol. Mae gan Bowys ddyheadau tebyg ac mae nifer o gyfleoedd i wireddu'r uchelgeisiau rydym yn eu rhannu."