Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwblhau gwaith ar 'Balas' Art Nouveau yn Llandrindod

The Automobile Palace in the centre of Llandrindod Wells

18 Mawrth 2024

The Automobile Palace in the centre of Llandrindod Wells
Mae'r gwaith wedi ei gwblhau ar adfer y cyn-ystafell arddangos beiciau a cheir graddfa II* - sef yr hynaf yng Nghymru - a gwneud defnydd ohoni unwaith yn rhagor.

Cafodd cyfanswm o £3.1 miliwn ei wario i brynu ac ailwampio'r Palas Moduron arddull Art Nouveau ac Art Deco yng nghanol Llandrindod ar ôl i Gyngor Sir Powys sicrhau £1.585 miliwn o nawdd oddi wrth Lywodraeth Cymru a £550,000 oddi wrth Lywodraeth DU.

Mae'r cyngor bellach yn barod i osod naw uned busnes sydd wedi cael eu huwchraddio a'u gwneud yn fwy ynni-effeithlon diolch i waith y Gwasanaethau Dylunio Eiddo a Grŵp SWG, sef adeiladwyr a leolir yn y Trallwng.

Bydd y Palas Moduron hefyd yn parhau i fod yn gartref i'r Casgliad Seiclo Cenedlaethol a Chanolfan Waith Llandrindod.

Bydd y gwaith ar yr adeilad, a saif ar y gyffordd rhwng Temple Street, Spa Road East a Princes Avenue, yn cynnwys:

  • Atgyweirio teils faiencegwyn anarferol wedi eu mowldio a'u defnyddio fel cladin.
  • Atgyweirio fframiau ffenestri a drysau.
  • Ychwanegu gorffeniad newydd ac inswleiddio'r to.
  • Atgyweirio'r cerfluniau llew 23 stôn ar y to.
  • Atgyweirio ac ailbeintio'r rheiliau.
  • Atgyweirio'r plinth o garreg.
  • Gosod drysau tân mewnol a phared gwydrog mewnol newydd.
  • Uwchraddio'r larymau tân, gwresogi, awyru a goleuo.
  • Gwella ac estyn cyfleusterau toiled ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
  • Ailosod yr holl ardaloedd swyddfa.
  • Ychwanegu haenen friciau at y wal dalcen.

"Mae'n wych gweld yr adeilad eiconig hwn yng nghanol Llandrindod yn cael ei ddefnyddio eto mewn ffordd y gobeithiwn fydd yn annog entrepreneuriaeth ac arloesedd." Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hwn yn adeilad pwysig i'r dref a'r sir ac o arwyddocâd mawr yn hanesyddol. Mae'r adeilad wedi ei restru oherwydd y defnydd arloesol o goncrid dur a'r gred yw mai dyma'r ystafell arddangos bwrpasol ar gyfer ceir, hynaf yng Nghymru."

Cafodd y Palas Moduron ei adeiladu rhwng 1906 a 1911 gan yr arloeswr trafnidiaeth, Tom Norton, a wnaeth ei ehangu yn 1919.

Ei enw gwreiddiol oedd 'Y Palas Chwaraeon' ond newidiwyd yr enw busnes o Tom Norton Ltd i The Automobile Palace Ltd ym 1925.

Dywedodd Julian Kirkham, cyfarwyddwr gyda Grŵp SWG: "Rydym ni wrth ein boddau o'r cyfle i helpu i gadw a gwella un o adeiladau mwyaf adnabyddus Powys ac edrychwn ymlaen at weithio ar ragor o brosiectau fel hwn gyda'r cyngor sir yn y dyfodol."

Cafodd yr arian ar gyfer y prosiect ei sicrhau gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio'r cyngor.

Rhagor o wybodaeth am raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth am raglen Ffyniant Bro Llywodraeth DU.

Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn rhentu un o'r unedau hyn gysylltu:  property.sales@powys.gov.uk

Mae'r naw sydd ar gael yn amrywio mewn maint o 269 - 3,041 tr2 ac mae caniatâd i'w defnyddio ar gyfer y dosbarthiadau cynllunio hyn: A1 Siopau, A2 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, A3 Bwyd a Diod a B1 Busnesau.

LLUN: Y Palas Moduron yng nghanol Llandrindod.