Cwblhau gwaith ar 'Balas' Art Nouveau yn Llandrindod
18 Mawrth 2024
Cafodd cyfanswm o £3.1 miliwn ei wario i brynu ac ailwampio'r Palas Moduron arddull Art Nouveau ac Art Deco yng nghanol Llandrindod ar ôl i Gyngor Sir Powys sicrhau £1.585 miliwn o nawdd oddi wrth Lywodraeth Cymru a £550,000 oddi wrth Lywodraeth DU.
Mae'r cyngor bellach yn barod i osod naw uned busnes sydd wedi cael eu huwchraddio a'u gwneud yn fwy ynni-effeithlon diolch i waith y Gwasanaethau Dylunio Eiddo a Grŵp SWG, sef adeiladwyr a leolir yn y Trallwng.
Bydd y Palas Moduron hefyd yn parhau i fod yn gartref i'r Casgliad Seiclo Cenedlaethol a Chanolfan Waith Llandrindod.
Bydd y gwaith ar yr adeilad, a saif ar y gyffordd rhwng Temple Street, Spa Road East a Princes Avenue, yn cynnwys:
- Atgyweirio teils faiencegwyn anarferol wedi eu mowldio a'u defnyddio fel cladin.
- Atgyweirio fframiau ffenestri a drysau.
- Ychwanegu gorffeniad newydd ac inswleiddio'r to.
- Atgyweirio'r cerfluniau llew 23 stôn ar y to.
- Atgyweirio ac ailbeintio'r rheiliau.
- Atgyweirio'r plinth o garreg.
- Gosod drysau tân mewnol a phared gwydrog mewnol newydd.
- Uwchraddio'r larymau tân, gwresogi, awyru a goleuo.
- Gwella ac estyn cyfleusterau toiled ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
- Ailosod yr holl ardaloedd swyddfa.
- Ychwanegu haenen friciau at y wal dalcen.
"Mae'n wych gweld yr adeilad eiconig hwn yng nghanol Llandrindod yn cael ei ddefnyddio eto mewn ffordd y gobeithiwn fydd yn annog entrepreneuriaeth ac arloesedd." Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hwn yn adeilad pwysig i'r dref a'r sir ac o arwyddocâd mawr yn hanesyddol. Mae'r adeilad wedi ei restru oherwydd y defnydd arloesol o goncrid dur a'r gred yw mai dyma'r ystafell arddangos bwrpasol ar gyfer ceir, hynaf yng Nghymru."
Cafodd y Palas Moduron ei adeiladu rhwng 1906 a 1911 gan yr arloeswr trafnidiaeth, Tom Norton, a wnaeth ei ehangu yn 1919.
Ei enw gwreiddiol oedd 'Y Palas Chwaraeon' ond newidiwyd yr enw busnes o Tom Norton Ltd i The Automobile Palace Ltd ym 1925.
Dywedodd Julian Kirkham, cyfarwyddwr gyda Grŵp SWG: "Rydym ni wrth ein boddau o'r cyfle i helpu i gadw a gwella un o adeiladau mwyaf adnabyddus Powys ac edrychwn ymlaen at weithio ar ragor o brosiectau fel hwn gyda'r cyngor sir yn y dyfodol."
Cafodd yr arian ar gyfer y prosiect ei sicrhau gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio'r cyngor.
Rhagor o wybodaeth am raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth am raglen Ffyniant Bro Llywodraeth DU.
Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn rhentu un o'r unedau hyn gysylltu: property.sales@powys.gov.uk
Mae'r naw sydd ar gael yn amrywio mewn maint o 269 - 3,041 tr2 ac mae caniatâd i'w defnyddio ar gyfer y dosbarthiadau cynllunio hyn: A1 Siopau, A2 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, A3 Bwyd a Diod a B1 Busnesau.
LLUN: Y Palas Moduron yng nghanol Llandrindod.