Dulliau eraill o gael rhywun i weithredu ar eich rhan
Unigolion/Sefydliad Apwyntiedig
Os oes rhywun yn derbyn budd-daliadau gan yr Adran Waith a Phensiynau, gall yr Adran Waith a Phensiynau awdurdodi rhywun i weithredu ar eu rhan. Gelwir yr unigolyn neu sefydliad yn 'unigolyn/sefydliad apwyntiedig'.
Dirprwyaeth
Mae Penodeiaeth yn awdurdodi'r Sawl a benodir i reoli budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn unig. Mewn achosion lle mae angen cysylltu â sefydliadau ariannol eraill, gellir gwneud cais yn y Llys Gwarchod ar gyfer penodi Dirprwy wedi'i benodi gan y Llys ar gyfer Materion Ariannol ac Eiddo, mae hyn yn caniatáu i rywun arall ofalu am eich cynilion a'ch asedau eraill.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran Help gyda materion ariannol.
Pleidleisio
Oeddech chi'n gwybod y gallwch enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan?