Dulliau eraill o gael rhywun i weithredu ar eich rhan
Unigolion/Sefydliad Apwyntiedig
Os oes rhywun yn derbyn budd-daliadau gan yr Adran Waith a Phensiynau, gall yr Adran Waith a Phensiynau awdurdodi rhywun i weithredu ar eu rhan. Gelwir yr unigolyn neu sefydliad yn 'unigolyn/sefydliad apwyntiedig'.
Dirprwyaeth
Os ydych yn derbyn budd-daliadau gan yr Adran Waith a Phensiynau, gallwch drefnu bod rhywun yn delio â'ch budd-daliadau ar eich rhan. Mae'r Llys Amddiffyn yn rhoi Gorchmynion Dirprwyaeth sy'n caniatau i rywun arall ofalu am eich cynilion neu asedau eraill.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran Help gyda materion ariannol.
Pleidleisio
Oeddech chi'n gwybod y gallwch enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan?