Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Help gyda Budd-daliadau

Image of pound sign
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu chi i sicrhau eich bod yn gallu cael cymaint o incwm ag y gallwch, lleihau eich costau a thrin eich dyledion, eich biliau a'ch benthyg. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar hyd a lled Powys sy'n darparu help arbenigol i wneud hyn ond mae gennym hefyd ein tîm ein hunain o swyddogion sy'n gallu ymweld â chi neu'ch cynorthwyo dros y ffôn.

 

Gwnewch gais am fudd-daliadau neu os ydych angen siarad â rhywun am hawliad presennol, gofynnwch i ni eich ffonio.

 

Materion Ariannol * Pob peth digidol ac am fod ar-lein * Cyngor am fudd-daliadau a dyfarniadau * Hawliadau am fudd-dal tai * Gostyngiadau treth y cyngor* Prydau ysgol am ddim * Taliadau tai dewisol

Yn anffodus, nid ydym yn cynnal y sesiynau taro heibio bellach, ond gallwch ddod i siarad â ni yn un o'n sesiynau apwyntiad:

  • Neuadd Maldwyn
  • Y Gwalia
  • Neuadd Bryncheiniog
  • Llyfrgell Tref-y-Clawdd
  • Llyfrgell Rhaeadr Gwy
  • Canolfan Byd Gwaith y Drenewydd
  • Ystradgynlais
  • Canolfan Byd Gwaith y Trallwng

Ffoniwch 01597 827462 i drefnu apwyntiad

Cymorth i reoli arian

Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth nail ai dros y ffôn neu drwy apwyntiad wyneb yn wyneb yn eich Swyddfa Gyngor lleol neu yn eich cymuned

Cymorth arall

Mae sawl ffynhonnell gymorth leol ar gael i chi i'ch helpu gydag anghenion penodol.

Cyfrifianellau

Defnyddiwch y cyfrifiannell budd-daliadau ar entitledto.co.uk i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech o bosibl eu hawlio.