Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trafod heriau amaethyddol rhwng y cyngor a grwpiau ffermio

Image of a group of people in the chamber at County Hall

20 Mawrth 2024

Image of a group of people in the chamber at County Hall
Ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 19), gwnaeth cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a Rhwydwaith Ffermio Sy'n Gyfeillgar i Natur, gwrdd ag uwch arweinwyr o Gyngor Sir Powys i drafod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig. 

Ar ôl y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach a'r Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Rydym ni'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd ffermio a'r sector amaethyddol ym Mhowys a pha mor bryderus yw ffermwyr ynghylch y cynigion oddi fewn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

"Hoffem ddiolch i Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a'r Rhwydwaith Ffermio Sy'n Gyfeillgar i Natur am gwrdd â'r cyngor fel ein bod i'n gallu gwrando ar eu pryderon. 

"Mae angen i ni weithio ynghyd er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermio yma ym Mhowys ond hefyd ledled Cymru a chefnogi'r sector i ddarparu diogelwch bwyd a'i helpu i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

"Wrth gefnogi'r gymuned ffermio, nid yn unig ydyn ni'n cefnogi diwydiant cenedlaethol ond rydyn ni hefyd yn helpu ac yn gwella ein cymunedau lleol."

Yn gynharach y mis hwn, gwnaeth Cyngor Llawn, Cyngor Sir Powys, gefnogi cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i 'adnewyddu'r ymgysylltiad â'r undebau ffermio, cyn ail-ddynesu at y sector amaethyddol, ar ôl i ddiwygiadau difrifol gael eu gwneud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy'.