Trafod heriau amaethyddol rhwng y cyngor a grwpiau ffermio
20 Mawrth 2024
Ar ôl y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach a'r Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Rydym ni'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd ffermio a'r sector amaethyddol ym Mhowys a pha mor bryderus yw ffermwyr ynghylch y cynigion oddi fewn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
"Hoffem ddiolch i Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a'r Rhwydwaith Ffermio Sy'n Gyfeillgar i Natur am gwrdd â'r cyngor fel ein bod i'n gallu gwrando ar eu pryderon.
"Mae angen i ni weithio ynghyd er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermio yma ym Mhowys ond hefyd ledled Cymru a chefnogi'r sector i ddarparu diogelwch bwyd a'i helpu i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
"Wrth gefnogi'r gymuned ffermio, nid yn unig ydyn ni'n cefnogi diwydiant cenedlaethol ond rydyn ni hefyd yn helpu ac yn gwella ein cymunedau lleol."
Yn gynharach y mis hwn, gwnaeth Cyngor Llawn, Cyngor Sir Powys, gefnogi cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i 'adnewyddu'r ymgysylltiad â'r undebau ffermio, cyn ail-ddynesu at y sector amaethyddol, ar ôl i ddiwygiadau difrifol gael eu gwneud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy'.