Sut allaf i gael help gyda salwch meddwl?
I ddechrau, ewch i weld eich Meddyg Teulu. Mae yna lawer o bethau y gall eu gwneud i'ch helpu chi.
Os oes angen help mwy trylwyr arnoch chi, bydd y Meddyg Teulu'n gallu eich atgyfeirio at staff Iechyd Meddwl Sylfaenol sy'n helpu pobl sy'n dioddef o:
- iselder
- pryder a phwl o banig
- stres
- anawsterau wrth ddelio â digwyddiadau bywyd
Maen nhw'n cynnig:
- cyngor a chefnogaeth i ddefnyddio deunydd hunan-helpu
- cyrsiau therapi gwybyddol (CBT)
- cyrsiau rheoli stres
- sesiynau therapi siarad seiliedig ar dystiolaeth i oresgyn problemau cyffredin
- cwnsela
- atgyfeirio at gymorth tymor hirach os oes angen.
Os oes angen cymorth tymor hirach arnoch, byddwch chi fel arfer yn cael eich atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, ble y cewch fynediad at staff iechyd a gweithwyr cymdeithasol.
Ceir llawer o sefydliadau gwirfoddol ble y gallwch siarad â phobl, heb fod angen apwyntiad.
Dyma ddolenni defnyddiol at y cymorth sydd ar gael
Mae'r Samariaid yn cynnig cymorth 24/7 - https://www.samaritans.org/?nation=wales
Mind Powys https://mnpmind.org.uk/?msclkid=24e83d4acf8711ec8eb8a8bb8965961c
Llinell Cymuned, Cyngor a Gwrando "C.A.L.L"- https://www.callhelpline.org.uk/Default.asp
Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys a Gwasanaeth Cyfranogi - PAVO- https://www.powysmentalhealth.org.uk/cy/
Gallwch ddod o hyd i holl fanylion meddygfeydd Meddygon Teulu Powys fan hyn - https://www.gig.cymru/hpb/gwasanaethau-lleol/
Gallwch gysylltu â thîm CYMORTH i gael cyfarwyddyd a gwybodaeth am gymorth pellach os yw'n ofynnol.
E-bost CYMORTH: assist@powys.gov.uk, Rhif Ffôn CYMORTH: 0345 602 7050
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau