Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut allaf i gael help gyda salwch meddwl?

I ddechrau, ewch i weld eich Meddyg Teulu. Mae yna lawer o bethau y gall eu gwneud i'ch helpu chi.

Os oes angen help mwy trylwyr arnoch chi, bydd y Meddyg Teulu'n gallu eich atgyfeirio at staff Iechyd Meddwl Sylfaenol sy'n helpu pobl sy'n dioddef o:

  • iselder
  • pryder a phwl o banig
  • stres
  • anawsterau wrth ddelio â digwyddiadau bywyd

Maen nhw'n cynnig:

  • cyngor a chefnogaeth i ddefnyddio deunydd hunan-helpu
  • cyrsiau therapi gwybyddol (CBT)
  • cyrsiau rheoli stres
  • sesiynau therapi siarad seiliedig ar dystiolaeth i oresgyn problemau cyffredin
  • cwnsela
  • atgyfeirio at gymorth tymor hirach os oes angen.

Os oes angen cymorth tymor hirach arnoch, byddwch chi fel arfer yn cael eich atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, ble y cewch fynediad at staff iechyd a gweithwyr cymdeithasol.  

Ceir llawer o sefydliadau gwirfoddol ble y gallwch siarad â phobl, heb fod angen apwyntiad.

Dyma ddolenni defnyddiol at y cymorth sydd ar gael

Mae'r Samariaid yn cynnig cymorth 24/7 - https://www.samaritans.org/?nation=wales

Mind Powys https://mnpmind.org.uk/?msclkid=24e83d4acf8711ec8eb8a8bb8965961c

Llinell Cymuned, Cyngor a Gwrando "C.A.L.L"- https://www.callhelpline.org.uk/Default.asp

Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys a Gwasanaeth Cyfranogi - PAVO- https://www.powysmentalhealth.org.uk/cy/

Gallwch ddod o hyd i holl fanylion meddygfeydd Meddygon Teulu Powys fan hyn  -  https://www.gig.cymru/hpb/gwasanaethau-lleol/

Gallwch gysylltu â thîm CYMORTH i gael cyfarwyddyd a gwybodaeth am gymorth pellach os yw'n ofynnol. 

E-bost CYMORTH: assist@powys.gov.uk, Rhif Ffôn CYMORTH: 0345 602 7050

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau