Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth ag Iechyd Meddwl

mental health

Gall salwch meddwl effeithio ar unrhyw un ar unrhyw bryd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pan fyddwn yn brwydro gyda'n Hiechyd Meddwl achos mae yna help a chymorth ar gael.

Pan fydd y ffordd mae rhywun yn meddwl, teimlo neu ymddwyn yn newid yn sylweddol, yn enwedig pan fydd y newidiadau hynny yn effeithio'n niweidiol ar eu bywyd bob dydd neu'n peri trallod personol neu i bobl eraill, gallai fod yn amser ystyried cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol.

Mae siarad â rhywun am sut ydych chi'n teimlo yn gallu helpu yn aml iawn.

Gallwch hefyd gael mynediad at ofal iechyd meddwl sylfaenol drwy feddygfa eich Meddyg Teulu, sy'n wasanaeth siarad. Os oes problemau iechyd meddwl sylweddol gennych gall eich Meddyg Teulu eich atgyfeirio at y tîm iechyd meddwl cymunedol i gael asesiad iechyd meddwl trylwyr, fel ein bod ni'n gallu gweithio allan y ffordd orau o'ch helpu chi.

Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eich bod chi'n ceisio cael help a'ch bod chi'n gallu siarad drwy unrhyw deimladau a meddyliau a allai fod gennych.

Os oes angen i chi siarad â rhywun, rydym ni yma i helpu a'n nod yw rhoi cymorth i chi fyw eich bywyd a bod yn hapus ac yn iach.