Sut alla'i gael help?
Yn gyntaf ewch i weld eich Meddyg Teulu. Mae nifer o bethau y gallant eu gwneud i'ch helpu. Os ydych angen rhagor o help, byddant yn gallu eich cyfeirio at staff Iechyd Meddwl sy'n gallu helpu pobl sy'n dioddef o :
- Iselder
- Pryder ac ymosodiadau o banig
- Straen
- Anhawster ymdopi gyda digwyddiadau bywyd
Gallant gynnig:
- cyngor a chymorth ar ddeunyddiau hunangymorth
- cyrsiau therapi gwybyddol
- cyrsiau rheoli straen
- sesiynau therapi siarad yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar dechnegau a strategaethau i oresgyn problemau iechyd cyffredin
- cynghori
- cyfeiriad tuag at gymorth tymor hirach os oes angen
Os oes angen cymorth tymor hir, byddwch fel arfer yn cael eich atgyfeirio at y Tim Iechyd Meddwl Cymunedol lleol, gyda chyfle i gael cymorth gan staff iechyd a gweithwyr cymdeithasol.
116 123Am ddim i wneud galwadau o linellau tir, ffonau symudol a ffonau talu |
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau