Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd - Cefndir
Beth yw ACA?
Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yn safleoedd sy'n cael eu diogelu'n rhyngwladol ac sy'n gwneud cyfraniad mawr tuag at gadwraeth cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n byw ynddyn nhw. Ceir naw ACA afonydd dynodedig ledled Cymru sy'n diogelu cynefinoedd a rhywogaethau fel y lamprai, y dyfrgi ac eog yr Iwerydd. Mae ACA wedi eu diogelu o dan 'Rheoliadau Cynefinoedd'.
Beth yw'r broblem?
Mae ffosfforws yn faetholyn sy'n bodoli'n naturiol yn yr amgylchedd. Mae gweithgaredd dynol fel gwastraff tir gwledig, gwaith trin gwastraff dŵr (GtGD), a gwaith trin carthffosiaeth preifat, wedi ychwanegu rhagor o ffosfforws at y rhwydwaith afonydd.
Gall cynnydd i lefelau ffosfforws mewn afon arwain at broses o'r enw ewtroffigedd. Gall y broses hon achosi 'gordyfiant algâu' sy'n gallu cael effaith negyddol ar iechyd a bioamrywiaeth afonydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymgymryd ag Asesiad Cydymffurfiaeth o ACA afonydd Cymru yn erbyn targedau ffosfforws mwy llym a osodwyd gan Gyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (CCN) yn 2016. O'r cyrff dŵr ACA a aseswyd ledled Cymru, methodd 61% â bodloni'r targedau ffosfforws.
Pa Ddalgylchoedd ACA Afonydd sy'n cael eu heffeithio ym Mhowys?
Mae rhannau mawr o ddalgylchoedd ACA afon Gwy ac afon Wysg, yn ogystal ag ardaloedd bach o ACA afon Tywi ac afon Dyfrdwy oddi fewn i Bowys. Gallwch weld map sy'n dangos dalgylchoedd ACA afonydd yma: https://mapdata.llyw.cymru/.