Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dal i fod amser i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

A woman is standing outside her flat, looking happy. She is wearing a necklace with “I’m Registered To Vote” spelt out on it.

4 Ebrill 2024

Mae gwraig hŷn yn sefyll y tu allan i'w fflat, yn edrych yn hapus. Mae hi'n gwisgo cadwen gyda “Dwi Wedi Cofrestru i Bleidleisio” wedi'i sillafu arni.
Gyda llai na phythefnos tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar ddydd Iau, 2 Mai, mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 16 Ebrill. Gall pleidleiswyr cymwys wneud cais ar-lein yn Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK (www.gov.uk).

Os ydych wedi symud tŷ, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnwys Powys, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ffurf dderbyniol o brawf adnabod â llun i bleidleisio yn etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Fel pleidleisiwr, byddwch yn gallu defnyddio ID gyda llun arno sydd wedi dod i ben os ydych chi'n dal i fod yn adnabyddadwy o'r llun.

Os nad oes gennych unrhyw fath o ID derbyniol, gallwch wneud cais am ID am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.  I wneud cais, ewch i Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr') - GOV.UK (www.gov.uk)

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ID am ddim i bleidleiswyr yw 5:00pm ddydd Mercher, 24 Ebrill.

Os nad ydych am fynd i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais bost tan 5:00pm ddydd Mercher 17 Ebrill a chyn 5:00pm ddydd Mercher 24 Ebrill i bleidleisio drwy ddirprwy. Gallwch nawr wneud cais ar-lein am bleidlais bost yn How to vote: Voting by post - GOV.UK (www.gov.uk) neu bleidlais drwy ddirprwy yn How to vote: Voting by proxy - GOV.UK (www.gov.uk)

Dywedodd Emma Palmer, Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Powys: "Gyda llai na phythefnos i fynd, mae amser yn brin i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

"Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, mae'n rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os nad ydych wedi cofrestru erbyn hanner nos 16 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.

"Cofiwch y bydd angen ID Pleidleiswyr arnoch i bleidleisio wyneb yn wyneb ar gyfer yr etholiad hwn. Os nad oes gennych unrhyw fath o brawf adnabod, gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn 5pm ddydd Mercher, 24 Ebrill.

"Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un golli eu hawl i bleidleisio."

Am fwy o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel. Fel arall, cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol y cyngor drwy e-bostio electoral.services@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826202.