Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cannoedd o fusnesau'n derbyn cymorth rhyddhad ardrethi

Image of new British money

18 Ebrill 2024

Image of new British money
Derbyniodd dros 500 o fusnesau ym Mhowys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch ostyngiad i'w biliau trethi busnes ar ôl gwneud cais am gynllun rhyddhad ardrethi, yn ôl y cyngor sir.

Mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, wedi galluogi 550 o fusnesau yn y sir i dderbyn y rhyddhad o 40%, sydd wedi lleihau eu biliau ardrethi busnes o £1.8m.

Nawr mae'r cyngor yn annog y busnesau cymwys sy'n weddill i wneud cais am y rhyddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi adferiad busnesau Powys o effeithiau'r pandemig a'r heriau economaidd parhaus gan gynnwys cyfraddau chwyddiant uchel, yn cynnig gostyngiad o 40% i fusnesau cymwys ar y bil ardrethi busnes ar gyfer eiddo.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob talwr ardrethi cymwys gyda chap rhyddhad ar gyfer pob eiddo busnes hyd at uchafswm o £110,000.

Derbyniodd y cyngor £3.2m o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.

Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gael tan 31 Mawrth 2025. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.

Dywedodd Jane Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y cyngor: "Rydym yn amcangyfrif y gallai 950 o fusnesau ym Mhowys fod â hawl i'r rhyddhad ardrethi hwn o 40% felly rwy'n falch iawn bod dros hanner y busnesau eisoes wedi gweld gostyngiad yn eu bil ardrethi busnes ar ôl gwneud cais am ryddhad ardrethi.

"Mae'n parhau i fod yn gyfnod anodd i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'r cyfnod economaidd heriol parhaus sy'n eu hwynebu wrth geisio adfer o effeithiau'r pandemig.

"Mae'r cynllun hwn yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn felly byddwn yn annog y rhai nad ydynt wedi gwneud cais i wneud hynny cyn gynted â phosibl."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i wneud cais, ar gael arlein yn Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 / 2025