Prosiect Bargen Twf Cyntaf Canolbarth Cymru wedi rhoi golau gwyrdd i gam olaf datblygu achosion busnes
22 Ebrill 2024
Mae'r penderfyniad hwn yn garreg filltir bwysig i'r Cynllun Twf fel y prosiect cyntaf i symud ymlaen i'r cam nesaf o ddatblygu o dan gymeradwyaeth y Bwrdd.
Gyda'r garreg filltir hon wedi'i chyflawni, mae'r prosiect bellach ar fin symud ymlaen tuag at gwblhau Achos Busnes Llawn gynhwysfawr: y cam olaf hanfodol sydd ei angen i sicrhau cyllid y Cynllun Twf cyn ei weithredu*.
O glywed y newyddion, dyma a oedd gan Martin Driscoll, Uwch-berchennog Cyfrifol prosiect Llynnoedd Cwm Elan a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes a Phobl, Dŵr Cymru, i'w ddweud: "Rydym yn falch bod y prosiect wedi cyrraedd cam mor bwysig wrth i ni anelu at greu cyrchfan o'r radd flaenaf yn y Canolbarth. Credwn y bydd yn allweddol o safbwynt cyflawni un o feysydd blaenoriaeth y Fargen Twf, sef cael Cynnig Twristiaeth Gryfach. Nod y prosiect yw gwella'r profiad i ymwelwyr, cynyddu refeniw a chynnal harddwch ac amgylchedd naturiol Cwm Elan. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â thîm Bargen Twf Canolbarth Cymru i gael y maen i'r wal."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Roeddem yn falch o gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect hwn yn ein Bwrdd yn ddiweddar, carreg filltir gyffrous fel y prosiect cyntaf i gyrraedd y cam hwn gyda Bargen Twf Canolbarth Cymru hyd yn hyn. Mae llawer o waith i'w wneud â Dŵr Cymru ar y prosiect, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i weld buddsoddiad y Cynllun Twf yn cael ei ysgogi i'w lawn botensial a denu buddsoddiad i'r rhanbarth i wella a gwella ein cynnig twristiaeth.
"Mae canolbarth Cymru eisoes ar y map o safbwynt gweithgareddau antur awyr agored - ond gallai'r buddsoddiad hwn hybu gwelliannau pellach i'r sector gan sicrhau ar yr un pryd bod cadwraeth a chynaliadwyedd yn parhau'n flaenoriaethau allweddol.
"Bydd creu cyfleusterau ac asedau newydd yn helpu denu ymwelwyr mwy amrywiol i Ganolbarth Cymru; creu swyddi'n uniongyrchol - yn ogystal ag yn yr economi ymwelwyr ehangach, gan roi mwy o resymau i bobl ymweld â'r Canolbarth ac aros yma, gan gefnogi amrywiaeth fwy o swyddi yn y diwydiant hamdden, manwerthu a lletygarwch yn y rhanbarth."
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr misol sy'n cynnwys y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau Tyfu Canolbarth Cymru, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.
*Nid yw'r penderfyniad i fwrw ymlaen ar hyn o bryd yn gwarantu y bydd cyllid y Cynllun Twf yn cael ei ddyfarnu.