Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynnal isetholiad cyngor sir

Image of County Hall

24 Ebrill 2024

Image of County Hall
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd isetholiad cyngor sir yn cael ei gynnal ar gyfer ward Rhiwcynon.

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal i lenwi un sedd wag yn dilyn ymddiswyddiad Heulwen Hulme yn gynharach y mis hwn (Ebrill).

Cyhoeddwyd hysbysiad etholiad ar gyfer yr isetholiad ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd hyd at 4pm ddydd Mawrth, 7 Mai, 2024 i gyflwyno ei bapur enwebu i'r Swyddog Canlyniadau.

Os bydd etholiad yn cael ei gynnal, bydd hynny'n digwydd ddydd Mawrth, 4 Mehefin, 2024.

Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio hyd at ddydd Iau, 16 Mai, 2024 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Er mwyn cofrestru i bleidleisio ewch i www.gov.uk/registertovote.

Dylai etholwyr nodi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener 17 Mai, 2024.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener, 24 Mai, 2024. Ceir hyd i wybodaeth am geisiadau pleidlais trwy ddirprwy yma Etholiadau a phleidleisio

Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel