Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cabinet i ystyried adroddiad Ymgynghori ar Ysgolion Y Drenewydd

Image of a primary school classroom

2 Mai 2024

Image of a primary school classroom
Gall cynlluniau i gynyddu capasiti adeilad ysgol newydd arfaethedig yn Y Drenewydd er mwyn cynnwys disgyblion ysgol arall, dderbyn cymeradwyaeth os caiff argymhelliad i'r Cabinet ei gymeradwyo, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cynyddu capasiti adeilad newydd arfaethedig Ysgol Calon y Dderwen er mwyn gallu cynnwys disgyblion Ysgol G.G Treowen hefyd.  Y bwriad yw y bydd disgyblion, o fis Medi 2025, yn parhau i fynychu'r ysgol yn adeilad presennol Treowen nes bydd adeilad newydd Ysgol Calon y Dderwen yn barod.

Pan fydd yr adeilad newydd yn agor, byddai safle Treowen yn cau, a byddai'r holl ddisgyblion yn symud i'r adeilad ysgol newydd i'w hadeiladu ar safle Ysgol Calon y Dderwen.

Mae'r cyngor sir wedi cynnal ymgynghoriad ar y cynigion yn gynharach eleni, a chaiff canlyniadau adroddiad yr ymgynghoriad eu hystyried gan y Cabinet ar ddydd Mawrth, 7 Mai.

Yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, gofynnir i'r Cabinet fwrw ymlaen gyda'r cynigion trwy gyhoeddi hysbysiad statudol.

Mae'r cynigion hyn yn rhan o don ddiweddaraf Rhaglen Trawsnewid Addysg y Cyngor, a ail-lansiwyd yn 2022 ynghyd â fersiwn diwygiedig o'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Yn ôl y Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Dymunwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar y cynnig hwn.

"Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, yr argymhelliad fydd yn mynd gerbron y Cabinet yw parhau â'r cynnig trwy gyhoeddi'r hysbysiad statudol.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl i'n pobl ifanc, ac un o'r ffyrdd y gallwn wireddu hyn yw trwy drawsnewid addysg.

"Mae'r cyngor yn credu bod y cynnig hwn yn bodloni nodau'r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys wrth inni geisio gwella hawl a phrofiad dysgwyr wrth gyflenwi cyfleusterau'r 21ain ganrif er mwyn cynnig amgylchfyd lle gall dysgwyr ac athrawon ffynnu a chyrraedd eu potensial."

I ddarllen Strategaeth ddiweddaraf Trawsnewid Addysg 2020-2032 ac am fanylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg