Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i ddechrau ar welliannau Y Lanfa wythnos nesaf

An artist’s impression of how Y Lanfa will look after the building work.

3 Mai 2024

An artist’s impression of how Y Lanfa will look after the building work.
Bydd gwaith i ehangu Y Lanfa: Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng, yn dechrau wythnos nesaf ar ôl i gontract gael ei ddyfarnu gan Gyngor Sir Powys i Grŵp SWG.

Bydd gofod llawr ychwanegol yn cael ei ychwanegu o dan ardal y canopi, i greu cyntedd newydd a gofod cymunedol / arddangos hyblyg uwch ei ben, ailfodelu orielau'r amgueddfa a gosod toiled cyhoeddus, lifft, paneli solar ac unedau trin aer newydd. Mae'r gwaith yn ategu ac yn ymestyn y gwaith adnewyddu a wnaed pan symudodd y llyfrgell i'r adeilad yn 2020.

Bydd ardal y lanfa hefyd yn cael ei hailwynebu i leihau'r perygl o lifogydd a'i gwneud yn fwy hygyrch, ac mae ardal newydd wedi'i thirlunio at ddefnydd y cyhoedd i'w hychwanegu. Bydd y bythynnod rhestredig Gradd II ar lannau'r gamlas yn cael eu hadnewyddu ar gyfer defnydd masnachol.

Bydd y contractwr (Grŵp SWG o'r Trallwng) yn gweithio ar y bythynnod yn gyntaf, gan ddechrau'r wythnos nesaf (dydd Mawrth 7 Mai) ac yna bydd yn symud i adeilad Y Lanfa: Amgueddfa Powysland ac adeilad Llyfrgell y Trallwng a'r ardaloedd allanol ym mis Medi.

Bydd yr amgueddfa ar gau drwy gydol y gwaith, ond bydd y llyfrgell yn aros ar agor. Yn ystod yr ail gam, yn yr hydref, bydd y llyfrgell yn gweithredu gwasanaeth llai o'r bythynnod wedi'u hadnewyddu. Bydd hyn yn cynnwys benthyg llyfrau, cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus a phwynt mynediad wyneb yn wyneb ar gyfer gwasanaethau'r cyngor.

Mae'r gwelliannau'n costio tua £1 miliwn ac maent yn rhan o brosiect gwerth £14 miliwn Adfer Camlas Maldwyn y llwyddodd y cyngor i sicrhau cyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar ei gyfer.

Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru (Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru) ar elfennau adfer dyfrffyrdd, gyda'r bwriad o greu amgylchedd gwell i bobl a natur:

  • Gwaith ar y glannau a charthu ar ddarn 4.4 milltir rhwng Llanymynech ac Arddleen.
  • Ailadeiladu Waliau a Phontydd Williams ger Llanymynech er mwyn caniatáu i gychod fynd drwyddynt.
  • Creu gwarchodfeydd natur newydd sy'n seiliedig ar ddŵr gydag ochr y gamlas.
  • Atgyweiriadau a gwelliannau i Draphont Ddŵr Aberbechan ger Y Drenewydd.

"Rwy'n falch iawn fod y gwaith yn dechrau'n fuan i ehangu'r gofod sydd ar gael i'r amgueddfa a'r llyfrgell yn y Trallwng ac ar waith i fythynnod ochr y gamlas a fydd yn eu galluogi i gael eu defnyddio unwaith eto," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus. "Mae'r dyluniadau ar gyfer yr estyniad i'r Lanfa yn edrych yn drawiadol!

"Nod y prosiect adfer hwn yw rhoi hwb i'r cymunedau ar hyd glannau'r gamlas a'r bioamrywiaeth a geir yn y coridor glas a gwyrdd sy'n rhedeg trwyddynt."

Crëwyd y dyluniadau ar gyfer Y Lanfa gan Hughes Architects ac mae'r adeilad yn cael ei reoli gan Wasanaethau Dylunio Eiddo'r cyngor.

Meddai Richard Lewis, Pensaer a Chyfarwyddwr cwmni Hughes Architects: "O'r cychwyn cyntaf, mae'r weledigaeth ar gyfer Y Lanfa wedi bod yn ymwneud â llawer mwy nag adnewyddu brics a morter yn unig. Rydym yn gweld y cynllun hwn fel galluogwr, gan ddatgloi potensial aruthrol glannau'r gamlas i ddod yn gatalydd ar gyfer adfywio'r dref gyfan."

Ychwanegodd Steve Gough, Cyfarwyddwr Grŵp SWG: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau'r contract i weithio ar Y Lanfa, sydd dafliad carreg o'n prif swyddfa ein hunain yr ochr arall i'r gamlas. Rydym ni hefyd yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu i adfywio ein tref enedigol."

Mae'r gwaith ar brosiectau a ariennir gan Ffyniant Bro ym Mhowys yn cael ei gefnogi gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio'r cyngor. Gall unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn defnyddio bythynnod glannau'r gamlas ar ôl eu hadnewyddu ebostio'r tîm ar: UKLUF@powys.gov.uk

I ddarganfod mwy am y prosiect.

I ddarganfod mwy am gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y DU.

LLUN: Argraff artist o sut bydd Y Lanfa yn edrych ar ôl y gwaith adeiladu. Llun: Hughes Architects