Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhaglen uchelgeisiol i adeiladu ysgolion i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru

Image of a primary school classroom

7 Mai 2024

Image of a primary school classroom
Mae rhaglen uchelgeisiol gwerth £300miliwn i adeiladu ysgolion, a all trawsnewid addysg ar draws Powys dros y 10 mlynedd nesaf, wedi cymryd cam ymlaen ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo cyflwyno'r cynlluniau i Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Powys wedi llunio Rhaglen Strategol Amlinellol (SOP) newydd i'w chyflwyno i Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, rhaglen dreigl naw mlynedd o hyd.

Heddiw, (Dydd Mawrth 7 Mai) mae'r Cabinet wedi cytuno i gymeradwyo'r rhaglen i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Os caiff ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn helpu'r cyngor i wireddu ei Raglen Trawsnewid Addysg, a ail-lansiwyd yn 2022 ochr yn ochr â fersiwn diwygiedig o'r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, yn ogystal â gwireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.

Fel rhan o'r cyflwyniad, byddai'r rhaglen arfaethedig gwerth £300miliwn yn golygu  y byddai Llywodraeth Cymru'n darparu ychydig o dan £200miliwn o'r cyllid i adeiladu cyfleusterau addysg newydd, a'r Cyngor yn darparu ychydig dros £100miliwn.

Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Yr unig ffordd y gallwn feithrin Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach yw sicrhau'r dechrau gorau posibl mewn bywyd ar gyfer ein pobl ifanc. Un o'r ffyrdd y gallwn wireddu hyn yw trwy drawsnewid addysg.

"Gall y Rhaglen Strategol Amlinellol y byddwn yn ei chyflwyno nawr i Lywodraeth Cymru ymddwyn fel catalydd i drawsnewid addysg yn y sir. Bydd yn ein helpu i ddarparu darpariaeth a gynllunnir er mwyn cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer nifer gynyddol o blant a phobl ifanc i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddarparu ar yr un pryd, cyfleusterau'r 21ain Ganrif, fyddai'n cynnig amgylchfyd lle gall dysgwyr ac athrawon ffynnu a chyflawni eu potensial.

"Credaf y bydd y rhaglen hon yn helpu'r cyngor i fodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, a gweithredu'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."

I ddarllen y Strategaeth Trawsnewid Addysg ddiweddaraf ar gyfer 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg