Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaeth Gororau Ymlaen yn llunio cynigion am y dyfodol

Image of the four council leaders from Herefordshire, Shropshire, Monmouthshire and Powys

17 Mai 2024

Image of the four council leaders from Herefordshire, Shropshire, Monmouthshire and Powys
Mae Partneriaeth Gororau Ymlaen wedi symud yn gyflym ers ei lansio ym mis Tachwedd 2023.

Gan gymryd yr hyn a ddysgwyd yn ei ddigwyddiad cyntaf i aelodau a phartneriaid er mwyn helpu i lunio Maniffesto'r Gororau, mae'r Bartneriaeth yn paratoi i gyflwyno cynigion i lywodraethau Cymru a Lloegr ymhen ychydig fisoedd.

Lansiwyd y Bartneriaeth yn 2023 gyda chynllun i ddatgloi buddsoddiad newydd i ranbarth ffin Cymru a Lloegr sy'n gartref i 750,000 o bobl.

Daeth y digwyddiad yn Theatre Severn, Amwythig, â'r pedwar cyngor sefydlol - Swydd Henffordd, Sir Fynwy, Sir Powys a Swydd Amwythig, ynghyd â phartneriaid gan gynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau, busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, rheolwyr tir, arbenigwyr trafnidiaeth ac amgylcheddwyr.

Gofynnwyd i'r rhai a fynychwyd am eu mewnbwn ar bedair thema allweddol y bartneriaeth:

  • Natur, Ynni ac Addasu i'r Hinsawdd - Edrych ar gyfleoedd wedi ei seilio o amgylch ar yr amgylchedd naturiol, a heriau'r presennol a'r dyfodol i'r hinsawdd, ynni a natur.
  • Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol - Gwella seilwaith a chysylltedd ar draws y Gororau i roi gwell mynediad i swyddi, addysg a chyfleoedd.
  • Iechyd, Tai a Sgiliau - Canolbwyntio ar gynaliadwyedd a lles cymunedau, datblygu sgiliau mewn ymateb i anghenion cyflogwyr a darparu tai'n gyflymach.
  • Bwyd, Datblygu a'r Economi Ymwelwyr - Annog twf economaidd ein heconomi, datblygu a hyrwyddo cynnig unigryw y rhanbarth.

Mae'r Bartneriaeth bellach yn gweithio gyda melin drafod arloesol, y Sefydliad Economaidd Newydd, i ddadansoddi data a dangos sut y bydd y Bartneriaeth yn darparu model unigryw ar gyfer twf a ffyniant yn y dyfodol yn rhanbarth y Gororau. Bydd drafft "Maniffesto'r Gororau" yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gyda'r ddwy Lywodraeth, yng Nghaerdydd a San Steffan, gan helpu i yrru gwaith trawsffiniol effeithiol.

Ar ran holl arweinwyr y cyngor, dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym i gyd yn cydnabod gwerth unigryw'r Gororau fel y porth rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn cwmpasu dros 80 y cant o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr gyda phoblogaeth o fwy na 750,000 o bobl ac economi wledig sylweddol.

"Ac er ein bod yn gwerthfawrogi'r manteision rhyfeddol o fyw a gweithio mewn rhanbarth mor brydferth a gwledig, rydym hefyd yn deall ein bod ar drobwynt gyda'n gilydd, gyda galwadau cynyddol am ein gwasanaethau, isadeiledd drud a darpariaeth gwasanaethau. Ynghyd â'r anghenion newidiol gan boblogaeth sy'n yn aml yn heneiddio ac yn wasgaredig, ac yn arwain at lefelau is o gynhyrchiant a thwf cyflogaeth, ni fu amser gwell erioed ar gyfer dull strategol newydd. Rydym yn barod ar gyfer twf cynaliadwy.

"Credwn fod manteision economaidd sylweddol wrth i ni ymuno i weithio ar draws pleidiau, ar draws siroedd ac ar draws ffiniau ar gyfer cyllid a buddsoddiad gan lywodraethau'r DU a Chymru. Rydym eisiau rhannu ein brwdfrydedd am yr hyn rydyn ni'n anelu i'w gyflawni a dangos ein dull unedig o weithredu.

"Dangosodd y digwyddiad fod cyfleoedd cyffrous iawn i'r rhanbarth a bydd Partneriaeth Gororau Ymlaen yn cyflwyno sylwadau yng Nghaerdydd a Whitehall i fanteisio ar bob cyfle y gallwn."

Mae gwefan Partneriaeth y Gororau Ymlaen bellach yn fyw a bydd yn darparu adroddiad uchafbwyntiau o'r digwyddiad aelodau a phartneriaid  www.partneriaethygororauymlaen.org.uk a www.marchesforwardpartnership.org.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu