Partneriaeth Gororau Ymlaen yn llunio cynigion am y dyfodol
17 Mai 2024
Gan gymryd yr hyn a ddysgwyd yn ei ddigwyddiad cyntaf i aelodau a phartneriaid er mwyn helpu i lunio Maniffesto'r Gororau, mae'r Bartneriaeth yn paratoi i gyflwyno cynigion i lywodraethau Cymru a Lloegr ymhen ychydig fisoedd.
Lansiwyd y Bartneriaeth yn 2023 gyda chynllun i ddatgloi buddsoddiad newydd i ranbarth ffin Cymru a Lloegr sy'n gartref i 750,000 o bobl.
Daeth y digwyddiad yn Theatre Severn, Amwythig, â'r pedwar cyngor sefydlol - Swydd Henffordd, Sir Fynwy, Sir Powys a Swydd Amwythig, ynghyd â phartneriaid gan gynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau, busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, rheolwyr tir, arbenigwyr trafnidiaeth ac amgylcheddwyr.
Gofynnwyd i'r rhai a fynychwyd am eu mewnbwn ar bedair thema allweddol y bartneriaeth:
- Natur, Ynni ac Addasu i'r Hinsawdd - Edrych ar gyfleoedd wedi ei seilio o amgylch ar yr amgylchedd naturiol, a heriau'r presennol a'r dyfodol i'r hinsawdd, ynni a natur.
- Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol - Gwella seilwaith a chysylltedd ar draws y Gororau i roi gwell mynediad i swyddi, addysg a chyfleoedd.
- Iechyd, Tai a Sgiliau - Canolbwyntio ar gynaliadwyedd a lles cymunedau, datblygu sgiliau mewn ymateb i anghenion cyflogwyr a darparu tai'n gyflymach.
- Bwyd, Datblygu a'r Economi Ymwelwyr - Annog twf economaidd ein heconomi, datblygu a hyrwyddo cynnig unigryw y rhanbarth.
Mae'r Bartneriaeth bellach yn gweithio gyda melin drafod arloesol, y Sefydliad Economaidd Newydd, i ddadansoddi data a dangos sut y bydd y Bartneriaeth yn darparu model unigryw ar gyfer twf a ffyniant yn y dyfodol yn rhanbarth y Gororau. Bydd drafft "Maniffesto'r Gororau" yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gyda'r ddwy Lywodraeth, yng Nghaerdydd a San Steffan, gan helpu i yrru gwaith trawsffiniol effeithiol.
Ar ran holl arweinwyr y cyngor, dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym i gyd yn cydnabod gwerth unigryw'r Gororau fel y porth rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn cwmpasu dros 80 y cant o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr gyda phoblogaeth o fwy na 750,000 o bobl ac economi wledig sylweddol.
"Ac er ein bod yn gwerthfawrogi'r manteision rhyfeddol o fyw a gweithio mewn rhanbarth mor brydferth a gwledig, rydym hefyd yn deall ein bod ar drobwynt gyda'n gilydd, gyda galwadau cynyddol am ein gwasanaethau, isadeiledd drud a darpariaeth gwasanaethau. Ynghyd â'r anghenion newidiol gan boblogaeth sy'n yn aml yn heneiddio ac yn wasgaredig, ac yn arwain at lefelau is o gynhyrchiant a thwf cyflogaeth, ni fu amser gwell erioed ar gyfer dull strategol newydd. Rydym yn barod ar gyfer twf cynaliadwy.
"Credwn fod manteision economaidd sylweddol wrth i ni ymuno i weithio ar draws pleidiau, ar draws siroedd ac ar draws ffiniau ar gyfer cyllid a buddsoddiad gan lywodraethau'r DU a Chymru. Rydym eisiau rhannu ein brwdfrydedd am yr hyn rydyn ni'n anelu i'w gyflawni a dangos ein dull unedig o weithredu.
"Dangosodd y digwyddiad fod cyfleoedd cyffrous iawn i'r rhanbarth a bydd Partneriaeth Gororau Ymlaen yn cyflwyno sylwadau yng Nghaerdydd a Whitehall i fanteisio ar bob cyfle y gallwn."
Mae gwefan Partneriaeth y Gororau Ymlaen bellach yn fyw a bydd yn darparu adroddiad uchafbwyntiau o'r digwyddiad aelodau a phartneriaid www.partneriaethygororauymlaen.org.uk a www.marchesforwardpartnership.org.uk