Toglo gwelededd dewislen symudol

Troseddau iechyd anifeiliaid yn costio £13,000 i ddyn o Bowys

Image of a sheep and two cows

17 Mai 2024

Image of a sheep and two cows
Mae cyfres o droseddau iechyd anifeiliaid, gan gynnwys achosi dioddefaint dianghenraid i anifail, wedi costio £13,000 i ddyn o ogledd Powys, ar ôl iddo gael ei erlyn gan y cyngor sir.

Cafodd Robert Evans o Fferm Tafolwern, Llanbrynmair ei erlyn gan Dîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys am fethu â chynnal a chadw cofnodion meddyginiaeth stoc anifeiliaid; methu â gwaredu â stoc oedd wedi trigo yn gywir; peri dioddefaint dianghenraid i anifail a methu â darparu gofal digonol i anifail.

Ymddangosodd y diffynnydd, a oedd wedi pledio'n euog yn flaenorol i droseddau meddyginiaeth anifeiliaid a stoc wedi trigo mewn gwrandawiad cynharach, o flaen Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher 15 Mai, ble y'i cafwyd yn euog o ddau gyhuddiad arall yn ymwneud â lles anifeiliaid. Cafwyd Evans yn ddieuog am y ddwy drosedd arall.

Cafodd Evans ddirwy o £1,500 am bob un o'r pedwar cyhuddiad, a'i orchymyn i dalu tâl ychwanegol i'r llys sef £2,000 a chostau o £5,000, sef cyfanswm o £13,000.

Yn yr achos llys, dywedodd y Barnwr Rhanbarth ei fod wedi arddangos agwedd ddi-hid tuag at reoli ei fferm, a rhybuddiodd pe byddai'n cael ei ddyfarnu'n euog am droseddau tebyg yn y dyfodol, yna byddai ystyriaeth yn cael ei roi i'w wahardd rhag cadw anifeiliaid, a byddai hynny'n dinistrio ei fusnes i bob pwrpas.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Roedd potensial i ddiffyg cydymffurfiaeth y diffynnydd, o ran cynnal a chadw cofnodion am feddyginiaeth anifeiliaid a roddwyd i'w anifeiliaid, beryglu'r cyflenwad bwyd.

"Ar ôl iddynt ddarganfod nad oedd yn sicrhau lles ei anifeiliaid a heb gydymffurfio â gofynion cadw cofnodion, gweithredodd ein swyddogion yn erbyn y troseddau hyn, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu