Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen

Image of artists' impression of new building for Ysgol Bro Hyddgen

21 Mai 2024

Image of artists' impression of new building for Ysgol Bro Hyddgen
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod cais cynllunio i adeiladu adeilad newydd ar gyfer ysgol bob oed ym Machynlleth wedi cael ei gyflwyno.

Bydd Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn trawsnewid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Gydag Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ar y gorwel yr wythnos nesaf, mae cyflwyno'r cais yn garreg filltir bwysig o ran y prosiect a bydd yn helpu'r cyngor i gyrraedd ei ymrwymiadau o safbwynt ei Gynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg a nodau'r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Caiff yr ysgol newydd, gyda lle i 540 o ddisgyblion, ei hadwythnoseiladu ar safle uwchradd  Ysgol Bro Hyddgen i ddisodli'r adeiladau cynradd ac uwchradd presennol.

Bydd yr adeilad newydd yn cael ei ariannu trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, fydd yn talu 65% o gostau'r prosiect. Y cyngor fydd yn cyllido'r 35% arall.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau dechrau'n deg a blynyddoedd cynnar, yn rhan o leoliad yr ysgol gynradd, a darpariaeth uwchradd gydag addysg ôl-16.  Yn ogystal, bydd y cyfleusterau'n cynnwys canolfan anghenion dysgu ychwanegol, darpariaeth lles, ynghyd ag ystafell gymunedol a chae chwarae pob tywydd.

Bydd gan yr adeilad nodweddion amgylcheddol rhagorol, a hwn fydd adeilad Ysgol Pob Oed Passivhaus cyntaf y cyngor, fydd yn gwireddu Carbon Sero Net o safbwynt ei redeg a <600kg/CO2m2 ar gyfer carbon ymgorfforedig.

Disgwylir i'r ysgol newydd agor i ddisgyblion yn 2027.

Meddai'r Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd fod y cais ar gyfer adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen wedi cael ei gyflwyno.

"Bydd yr adeilad newydd yn cynnig cyfleusterau cyfoes ar gyfer ein disgyblion a'n staff dysgu ac yn eu helpu i roi profiad addysgol pleserus a buddiol i bawb.

"Mae hwn yn brosiect strategol pwysig ar gyfer y cyngor, oherwydd bydd yn ein helpu i wireddu ein hymrwymiadau o safbwynt Cynllun Stragegol y Gymraeg mewn Addysg ac yn cynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Hefyd bydd yn ein helpu i fodloni nodau ein Strategaeth Trawsnewid Addys gym Mhowys."

I ddarllen y Strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 ac i weld manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg