Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebu iaith Ysgol Bro Caereinion

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

21 Mai 2024

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Gallai cynlluniau sy'n torri tir newydd i symud ysgol bob oed yng Ngogledd Powys ar hyd y continwwm ieithyddol fel ei bod hi yn y pen draw yn Ysgol cyfrwng Cymraeg, gael eu gweithredu os fydd Cabinet yn rhoi sêl bendith i'r cynlluniau yr wythnos nesaf, dywedodd y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, a hynny'n raddol.

Byddai hynny'n galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau eu bod nhw'n gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio'r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol.

Byddai'n sicrhau hefyd fod disgyblion yn y rhan hon o Bowys yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd ddynodedig cyfrwng Cymraeg. Mae'r fath hon o ddarpariaeth ar gael eisoes i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru, ond ar hyn o bryd nid yw ar gael ym Mhowys.

Byddai'r cynnig yn cael ei gyflwyno yn raddol gan ddechrau gyda Derbyn ym mis Medi 2025, a Blwyddyn 7 yn 2026.

Fel rhan o'r cynnig, bydd y cyngor yn cynnig trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion blynyddoedd 4 ac iau yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan i'w darparwr uwchradd Cyfrwng Saesneg agosaf pan fyddant yn trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny.

Byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg, fel rhan o'r cynnig. Byddai hyn ar ffurf cefnogaeth ddwys yn y Gymraeg, sef 'Trochi', i alluogi disgyblion sydd ar hyn o bryd yn y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i drosglwyddo i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Cafodd y fath hon o ddarpariaeth ei darparu'n llwyddiannus yn flaenorol yn y sir ac mewn awdurdodau eraill i alluogi disgyblion i drosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn gynharach eleni, rhoddodd Cabinet ei sêl bendith i gyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer cynnig y newid yn ffurfiol. Cafodd hwn ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Yn ystod y cyfnod hysbysiad statudol, derbyniwyd 16 o wrthwynebiadau.

Ddydd Mawrth 28 Mai, bydd Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebu ac yn cael cais i gymeradwyo'r cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Byddai'r cynnig hwn yn gweld y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio'n dda i gynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r cynnig hwn yn bodloni nodau Strategaeth dros Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ac mae'n gweithredu ymrwymiadau ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae'n bwysig fod Cabinet yn clywed safbwyntiau'r rheini sydd wedi gwrthwynebu'r cynnig a chaiff rhain eu hystyried yn ofalus cyn bod unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud."

I ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith

I ddarllen fersiwn ddiwygiedig o'r Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022-2027) ewch i Trawsnewid Addysg