Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfanswm o £143,000 o gymorth Grantiau Twf yn helpu 13 cwmni o Bowys

Andy, of Andy’s Bread, using the oven to bake some pain aux noix and pasties

24 Mai 2024

Andy, of Andy’s Bread, using the oven to bake some pain aux noix and pasties
Cafodd 13 o gwmnïau o Bowys eu helpu i ehangu neu sicrhau eu dyfodol yn ystod y chwe mis diwethaf diolch i Grantiau Twf gan y cyngor sir.

Maent yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau o adeiladu tai i fragu, a derbyniodd pob un symiau o rhwng £1,000 a £25,000 ar ôl i gyfanswm o bron i £1.1 miliwn gael ei sicrhau gan y cyngor, oddi wrth Lywodraeth y DU, drwy'r Gronfa Ffyniant Cyffredin.

Mae'r arian, sydd hefyd yn gallu cael ei hawlio gan fusnesau sydd am symud i Bowys, yn parhau i fod ar gael o dan ail rownd y cynllun.

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Twf Busnes Powys nawr.

Bydd y rownd hon yn parhau ar agor nes bod y pot o £950,000 wedi'i ddyrannu'n llawn. Mae ceisiadau'n cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin, yn amodol ar gymeradwyaeth.

Y 13 cwmni a oedd yn llwyddiannus yn rownd un oedd:

  • Airflo Fishing Products, Aberhonddu: helpwyd i brynu siambr profi hinsawdd ail-law ar gyfer profi cynhyrchion pysgota, fel llinellau pysgota, yn lle rhentu un.
  • Andy's Bread, Llanidloes: helpodd i brynu popty ffan newydd fel bod y busnes yn gallu cynhyrchu mwy o deisennau melys ffres a chynhyrchion blasus.
  • Antur Brew Co (Van Dijk Brewing), Crughywel: helpodd i brynu pedwar tanc eplesu 1,000 litr a gosod llawr bragdy newydd.
  • As You See It Media, Llangatwg: helpu i brynu offer LiveU i'w ddefnyddio wrth ffrydio digwyddiadau yn fyw i oresgyn problemau gyda chysylltedd rhyngrwyd gwael.
  • CME Developments, Ystradgynlais: helpu i brynu cynwysyddion a chanopïau i greu mannau gwaith dan do, offer a pheiriannau trydan i ychwanegu at ei fflyd llogi a meddalwedd cyfrifiadurol.
  • Custom Marine Developments (CMD), Abermiwl: helpu i brynu system rheoli data dylunio i'r tîm o beirianwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur ei defnyddio.
  • Fedw Equestrian Centre, Trecastell: helpu i brynu offer newydd, gwefan a hyfforddiant i arallgyfeirio i ddod yn lleoliad tag laser, Laser Tag Wales.
  • Gloversure, Y Trallwng: helpu i brynu offer cyfrifiadurol a gweinyddion ar gyfer tîm newydd o staff sy'n gweithio ar is-frand wedi'i dargedu at y sector adeiladu.
  • Montgomeryshire Homes, Y Trallwng: helpu i brynu GPS ac offer cyfrifiadurol fel y gall gynnal ei arolygon safle ei hun a drafftio ei gynlluniau safle ei hun.
  • Plas Dolguog, Machynlleth: helpu i wneud gwaith adnewyddu i gynyddu'r capasiti i bum ystafell wely a chreu man storio diogel ar gyfer offer gweithgareddau awyr agored.
  • Quality Pipe Supports, Y Drenewydd: helpodd i brynu 'blaster' bwydo gwasgedd awtomatig i ryddhau amser ar gyfer tasgau mwy medrus.
  • Rural Foodies (Coco Pzazz), Llanidloes: helpu i brynu offer newydd ar gyfer gwresogi ac oeri siocled er mwyn cynyddu'r gallu i gynhyrchu.
  • Tuscan Foundry Products, Llanafan Fawr: helpwyd i brynu platfform mynediad lifft uchel newydd ar gyfer cynnal archwiliadau cwteri a phibellau.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r tair ar ddeg o fusnesau hyn o bob rhan o Bowys yn ystod rownd un," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "mae'r buddsoddiad hwn wedi helpu i greu 12 swydd newydd llawn amser a thair swydd ran amser, ac i ddiogelu 19 o swyddi llawn amser a phum rhan amser.

"Rydym am helpu busnesau yn y sir, a'r rhai sydd am symud yma, ar bob cam o'u datblygiad i gynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu llawer mwy yn rownd dau."

  • Dywedodd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Chynnyrch yn Airflo Fishing Products: "Rydym yn gweithgynhyrchu cynhyrchion a ddefnyddir yn fyd-eang felly mae angen i ni allu eu profi mewn amodau poeth, cymedrol ac oer ac mewn dŵr ffres neu ddŵr hallt er mwyn dynwared yr amgylchedd y cânt eu defnyddio ynddo."
  • Dywedodd Andrew Wright, Cyfarwyddwr Andy's Bread: "Bydd y popty ffan newydd hwn yn ein galluogi i bobi llawer mwy o gynhyrchion ar yr un pryd. Hefyd i ddatblygu eitemau newydd a fydd yn ychwanegu gwerth a gwydnwch i'r busnes."
  • Dywedodd Lance Van Dijk, Cyfarwyddwr Antur Brew Co: "Bydd hyn (pedwar tanc eplesu ychwanegol) ar unwaith yn cynyddu ein hallbwn posibl presennol o 500L yr wythnos i 2,500L yr wythnos. Bydd y cynnydd mewn cynhyrchiant yn gwneud gwerthiant masnach pecynnau mawr (gwerthiannau casgen i dafarndai, bariau a bwytai lleol) yn opsiwn ymarferol."
  • Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Creadigol yn As You See It Media: "Nod ein prosiect yw adeiladu cadernid trwy brynu uned LiveU sy'n cyfuno ffynonellau rhyngrwyd lluosog gan gynnwys data symudol, ether-rwyd a Wi-Fi a ffrydio mewn codec sydd wedi'i optimeiddio ar gyfer trosglwyddo fideo."
  • Dywedodd Jack Miller, Rheolwr Gyfarwyddwr Custom Marine Development: "Mae system rheoli data dylunio yn caniatáu ar gyfer cydweithio canolog, heb i bob peiriannydd ymyrryd â ffeiliau rhywun arall. Mae hyn yn caniatáu i beirianwyr lluosog weithio ar yr un prosiect ar yr un pryd, gan ddarparu cyfleoedd i dendro am brosiectau mwy."
  • Dywedodd Sam Workman, Cyfarwyddwr Fedw Equestrian Centre: "Rydym yn cynnig defnyddio ein seilwaith presennol i arallgyfeirio i ddod yn lleoliad tag laser. Mae'n gweithio'n dda gyda'n Haddewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru gydag ychydig iawn o sŵn ac effaith amgylcheddol hynod o isel. Rydym hefyd wedi addo plannu coed pren caled i wrthbwyso ôl troed carbon ein hymwelwyr wrth i'r busnes dyfu."
  • Dywedodd Stephanie Windsor-Lewis, Partner ym Mhlas Dolguog: "Mae'r ddau brosiect (dwy ystafell wely ychwanegol a'r man storio) i gefnogi a chynnig llety addas ar gyfer twristiaeth gweithgareddau. Mae grwpiau bach o bedwar neu bump, sy'n ymweld â'r ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, yn gofyn inni'n aml am ein hargaeledd."
  • Dywedodd Lori Whinn, Cyfarwyddwr Rural Foodies (Coco Pzazz): "Mae'r Prosiect Twf yn golygu prynu peiriant siocled Keychoc newydd, gyda capasiti uchel a fydd yn trawsnewid ein galluoedd cynhyrchu. Bydd yn ein galluogi i gynhyrchu 800 o fariau siocled ychwanegol yn ystod diwrnod gwaith rheolaidd."
  • Dywedodd Paul Stenning, Partner yn Tuscan Foundry Products: "Mae angen i ni gryfhau a gwahaniaethu ein busnes yn y farchnad ac rydym nawr yn dymuno ehangu ein galluoedd amcangyfrif/arolygu trwy brynu platfform mynediad lifft uchel wedi'i osod ar drelar i allu darparu arolygon lefel llygaid o gwteri a phibellau."

Gellir defnyddio'r arian i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw unwaith-yn-unig ond ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg arferol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Powys.

Neu anfonwch e-bost i: economicdevelopment@powys.gov.uk

LLUN: Andy, o Andy's Bread, yn defnyddio'r popty i bobi ychydig o pain aux noix a pasteiod