Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet yn cymeradwyo newid yn y ddarpariaeth iaith ar gyfer Ysgol Bro Caereinion

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

28 Mai 2024

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Caiff cynlluniau, sy'n torri tir newydd i symud ysgol bob oed ar hyd y continwwm ieithyddol, fel ei bod yn dyfod i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn y pen draw, eu rhoi ar waith ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Powys roi sêl bendith i'r cynlluniau, dywedodd Cyngor Sir Powys.

Ar ôl iddynt ystyried adroddiad gwrthwynebu, cymeradwyodd Cabinet ddydd Mawrth 28 Mai, ar argymhellion i symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg a hynny'n raddol.

Yn ystod yr wythnos pan fo Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, 2024 yn cael ei chynnal ger Meifod, bydd penderfyniad Cabinet yn helpu'r cyngor i fodloni ei Gynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg a nodau'r Strategaeth ar gyfer Trawsffurfio Addysg ym Mhowys.

Daw penderfyniad heddiw wythnos ar ôl i'r cyngor gyhoeddi fod cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno am adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, sydd ar hyn o bryd yn trawsnewid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Bydd symud Ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol yn galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau eu bod yn dyfod yn gwbl ddwyieithog, ac â'r gallu i ddefnyddio'r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol.

Byddai hefyd yn sicrhau fod disgyblion o'r rhan hon o Bowys yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ddynodedig. Mae'r math hon o ddarpariaeth ar gael eisoes i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru ond nid yw ar gael ym Mhowys ar hyn o bryd.

Byddai'r cynnig yn cael ei gyflwyno'n raddol gan ddechrau gyda Derbyn ym mis Medi 2025 a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

Fel rhan o'r cynnig, bydd y cyngor yn cynnig trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion Blynyddoedd 4 ac iau yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan i'w darparwr uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf pan fyddant yn pontio o'r cynradd i'r uwchradd, pe byddent yn dewis gwneud hynny.

Byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg, fel rhan o'r cynnig. Byddai hyn ar ffurf cefnogaeth ddwys yn y Gymraeg, sef 'Trochi', i alluogi disgyblion sydd ar hyn o bryd yn y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i drosglwyddo i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Cafodd y fath hon o ddarpariaeth ei darparu'n llwyddiannus yn flaenorol yn y sir ac mewn awdurdodau eraill i alluogi disgyblion i drosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg.  

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol sy'n cyd-fynd â chynnal Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, 2024, yn ein sir.

"Wrth weithredu'r cynnig hwn bydd y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio'n dda i gynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gyfrannu felly at ddyhead Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r cynnig hwn yn bodloni nodau Strategaeth dros Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ac mae'n gweithredu ymrwymiadau ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n bwysig fod Cabinet wedi clywed safbwyntiau'r rheini a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig a chawsant eu hystyried yn ofalus cyn bod unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud."

I ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith

I ddarllen fersiwn ddiwygiedig o'r Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022-2027) ewch i Trawsnewid Addysg