Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae amser ar ôl i chi gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol

Mae dyn yn sefyll y tu allan i orsaf drenau yng nghanol dinas. Mae ganddo fag tote du dros ei ysgwydd. Mae logo arddull band sy’n dweud “Dwi Wedi Cofrestru i Bleidleisio” i’w weld ar y bag.

7 Mehefin 2024

Mae dyn yn sefyll y tu allan i orsaf drenau yng nghanol dinas. Mae ganddo fag tote du dros ei ysgwydd. Mae logo arddull band sy’n dweud “Dwi Wedi Cofrestru i Bleidleisio” i’w weld ar y bag.
Gydag ychydig dros wythnos ar ôl nes dyddiad cau cofrestru pleidleiswyr ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, ddydd Iau 4 Gorffennaf, mae Cyngor Sir Powys yn annog preswylwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw ganol nos 18 Mehefin. Gall pleidleiswyr cymwys wneud cais ar-lein yma www.gov.uk/register-to-vote

Os ydych chi wedi symud tŷ, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

Bydd angen i bleidleiswyr ym Mhowys ddangos ffurf ID ffotograffig derbyniol i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol. Fel pleidleisiwr, byddwch chi'n gallu defnyddio ID ffotograffig nad yw'n gyfredol os oes modd eich adnabod o hyd o'r ffotograff.

Os nad oes gennych unrhyw ffurf o ID derbyniol, gallwch wneud cais o hyd am ID am ddim, sef Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr. Er mwyn ymgeisio ewch i www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate

Y dyddiad cau i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim yw 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.

Os nad ydych am bleidleisio yn bersonol, gallwch gofrestru am bleidlais drwy'r post tan 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin a chyn 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin i bleidleisio drwy ddirprwy yma www.gov.uk/how-to-vote/postal-voting neu bleidlais drwy ddirprwy yma www.gov.uk/how-to-vote/voting-by-proxy

Dywedodd Emma Palmer, Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Powys: "Gydag un wythnos yn unig i fynd, mae amser yn mynd yn brin i wneud yn siŵr y gallwch gymryd rhan yn yr Etholiad Cyffredinol.

"Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i breswylwyr fod ar gofrestr etholiadol. Felly os nad ydych wedi cofrestru erbyn canol nos 18 Mehefin, fyddwch chi ddim yn gallu cymryd rhan.

"Cofiwch y bydd angen ID Pleidleisiwr i bleidleisio'n bersonol yn yr etholiad hwn. Os nad oes gennych unrhyw ffurf o ID, gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin."

Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel.

Neu cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol y cyngor drwy e-bostio electoral.services@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826202.