Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Y Lawnt, Y Lôn Gefn, Y Drenewydd

Close Carwsél oriel ddelwedd

 

 

Mae cwblhau datblygiad tai Y Lawnt yn nodi cyflawniad sylweddol wrth fynd i'r afael ag anghenion tai y Drenewydd.

Mae'r adeilad tri llawr hwn, sy'n cynnwys 26 o fflatiau un ystafell wely, wedi trawsnewid yr hen lawnt bowlio yn gymuned breswyl fywiog. Wedi'i reoli gan Gyngor Sir Powys ac wedi'i adeiladu gan Pave Aways, mae'r prosiect £3.5 miliwn hwn yn darparu tai hanfodol, fforddiadwy i ymgeiswyr ar Gofrestr Tai Cyffredin Powys.

Mae dyluniad y datblygiad yn cydymffurfio â safonau Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru ac yn ymgorffori dulliau adeiladu modern a deunyddiau cynaliadwy sydd ddim angen llawer o gynnal a chadw. Mae defnyddio fframiau pren a dyfwyd yn lleol, inswleiddio ffeibr pren, a ffenestri pren wedi'u cladio ag alwminiwm, ynghyd â systemau awyru mecanyddol ac adfer gwres, yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae'r system wresogi gymunedol, sy'n cael ei phweru gan dri boeler yn unig, yn gwella effeithlonrwydd ynni'r fflatiau ymhellach.

Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth hael Llywodraeth Cymru, a ddarparodd grant o £2.2 miliwn drwy eu Rhaglen Tai Arloesol. Mae eu cyfraniad wedi bod yn allweddol wrth wireddu'r weledigaeth hon o dai fforddiadwy a chynaliadwy.

Wrth i ni ddathlu cwblhau'r Lawnt, edrychwn ymlaen at weld y datblygiad hwn yn ffynnu fel conglfaen i gymuned y Drenewydd. Rydym yn hyderus y bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu amgylchedd byw diogel, cyfforddus a chynaliadwy i'r holl breswylwyr. Diolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o wireddu'r prosiect hwn.

Cwblhawyd y prosiect: Gorffennaf 2022.

Sêl bendith swyddogol ar gyfer datblygiad tai'r Lawnt - Powys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu