Codi Pont Teithio Llesol y Drenewydd
19 Mehefin 2024
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru, bydd strwythur y bwa agored dur, un rhychwant yn ymestyn tua 53 metr ac yn cysylltu llwybr glan afon a chymunedau ar y gorllewin o Afon Hafren i Ffordd Trallwng ar y dwyrain.
"Os fydd popeth yn mynd yn iawn, a'r tywydd yn ffafriol, mae'r cwmni adeiladu sy'n gyfrifol am adeiladu'r bont, JN Bentley, yn bwriadu codi strwythur y bont 88 tunnell i'w lle gyda chraen ddydd Iau 27 Mehefin." Esboniodd Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys - Lle.
"Bydd union amseriadau codi'r bont yn dibynnu ar y tywydd ar y diwrnod.
"Yn ystod y broses o godi'r bont, bydd ardal waharddiedig dros dro o amgylch rhan o'r depo a'r ardal gyfagos yn cael ei rhoi ar waith a'i rheoli gan farsialiaid i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw'n ddiogel. Gofynnir i drigolion lleol, aelodau o'r cyhoedd ac eraill aros y tu allan i'r ardal wrth i'r bont gael ei symud i'w lle. Bydd ein timau yn ymweld ag aelwydydd a busnesau yr effeithir arnynt yn bersonol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r trefniadau.
"Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned leol am eu cydweithrediad drwy gydol y prosiect hwn ac yn eu hatgoffa i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a chyngor a ddarperir gan y marsialiaid ar y diwrnod."
Cafodd y bont ei hadeiladu a'i phaentio oddi ar y safle, gyda chydrannau unigol yn cael eu cludo i Ddepo Kirkhamsfield a'u rhoi at ei gilydd i greu'r strwythur mawr. Ochr yn ochr â'r gwaith o adeiladu'r gwaith dur, mae gwaith tir i gwblhau'r sylfeini a chreu'r ymylon ar bob ochr i'r afon hefyd wedi'i gwblhau.
Bydd y bont yn creu cyswllt teithio llesol diogel rhwng y cymunedau, busnesau ac amwynderau ar bob ochr i'r afon. Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu at y rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithio llesol ledled y sir a bydd yn ei gwneud yn haws i bobl y Drenewydd wneud teithiau byr i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau lleol, ar feic neu ar droed, yn hytrach na gorfod defnyddio car.
Rhagwelir y bydd y bont yn agored i feicwyr a cherddwyr yn ddiweddarach yn yr haf, a bwriedir agor y bont yn swyddogol ddechrau'r hydref.
Llun:Strwythur mawr y bont yn cael ei roi at ei gilydd yn Nepo Kirkhamsfield, yn barod i'w godi i'w le ar draws Afon Hafren.