Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Cyngor Sir Powys ar agor i fusnes

A computer in a Powys library

24 Mehefin 2024

A computer in a Powys library
Mae trigolion Powys yn cael eu hatgoffa fod y cyngor ar agor i fusnes, a bod ffyrdd amrywiol i bobl gysylltu â ni.

Dyna neges Emma Palmer, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, sy'n awyddus i roi hyder i drigolion fod y sefydliad sy'n cael ei arwain ganddi ar agor i fusnes yn sgil nifer o newidiadau i'r ffordd mae'r cyngor yn rhedeg. 

"Ni fu byth yn rhwyddach cysylltu â ni ynghylch ein gwasanaethau, a bellach mae miloedd o bobl yn dewis cysylltu â ni trwy Fy Nghyfrif Powys ar-lein unrhyw bryd yn ystod y dydd neu'r nos," ychwanegodd.

"Ond gwyddom nad yw hynny'n gweithio i bawb, felly fel cyngor rydym yn parhau i dderbyn eich galwadau ffôn a'ch croesawu wyneb yn wyneb yn ein llyfrgelloedd ac mewn swyddfeydd y cyngor, gan gynnwys Neuadd y Sir, trwy drefnu apwyntiad." 

Cysylltu â'r cyngor ar-lein 

  • Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Powys a'i ddefnyddio i gysylltu â ni pryd bynnag sy'n gyfleus ichi: https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi
  • Sgwrsio gyda ni ar-lein neu gellir chwilio am gyfeiriad ebost y gwasanaeth rydych chi am gysylltu  ef: Cysylltwch â Ni

Cysylltu â'r cyngor dros y ffôn 

  • Drwy ffonio 01597 826000 (os ydych chi'n gwybod enw'r unigolyn neu adran) 
  • Drwy ffonio 01597 827460 (ar gyfer ymholiadau cyffredinol) 

Cysylltu â'r cyngor wyneb yn wyneb 

Gallwch ymweld ag un o'n llyfrgelloedd - defnyddiwch y ddolen i chwilio am eich llyfrgell agosaf - https://www.storipowys.org.uk/?locale=cy - lle gallwn helpu gyda rhai trafodion (Dydd Llun - Gwener). Gall staff helpu cyfeirio trigolion at wasanaethau'r cyngor dan sylw, a'u cysylltu â staff y cyngor fydd yn gallu rhoi cymorth pellach ichi.

  • Aberhonddu (Y Gaer) 
  • Llanfair ym Muallt 
  • Crughywel 
  • Y Gelli Gandryll 
  • Tref-y-clawdd 
  • Llandrindod 
  • Llanidloes 
  • Llanfyllin 
  • Machynlleth 
  • Y Drenewydd
  • Llanandras 
  • Rhaeadr Gwy 
  • Y Trallwng (Y Lanfa) 
  • Ystradgynlais